Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin
Roedd Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin (Saesneg: Carmarthenshire NHS Trust) yn un Ymddiriodolaeth GIG yng Ngymru. Roedd pencadlys yr ymddiriedolaeth yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Mae pencadlys Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn Hwlffordd, Sir Benfro. Nid yw'n bodoli mwyach fel corff.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Gwasanaethodd yr ymddiriedolaeth tua 170,000 o bobl ar draws Sir Gaerfyrddin a siroedd cyfagos. Roedd ganddo ddau brif ysbyty, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, ac Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, gyda gwasanaethau damweiniau ac achosion brys. Roedd pedwar ysbyty cymunedol llai.
Roedd gan Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin dros 3,200 o staff. Y cadeirydd oedd Mrs Margaret Price, a'r prif weithredwr oedd Paul Barnett.
Cyfunodd ag Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen ym mis Ebrill 2008.[1] Yr enw ar yr ymddiriedolaeth sydd newydd uno yw Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda.
Enwyd y corff newydd wedi'r Brenin Hywel Dda o'r 10g a luniodd Cyfraith Hywel Dda o'i bencadlys yn Hendy-gwyn ar Daf sydd yng rhan o ardal yr ymddiriedolaeth newydd.
Ysbytai Cyffredinol
golyguRoedd ysbytai cyffredinol fel a ganlyn:
- Ysbyty Dyffryn Aman
- Ysbyty Bryntirion, caewyd yn 2004.
- Ysbyty Llanymddyfri
- Ysbyty Mynydd Mawr, caewyd yn 2013.
- Ysbyty Tywysog Philip
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Health trust mergers are agreed". BBC. 19 December 2007. Cyrchwyd 11 February 2019.