Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

(Ailgyfeiriad o Bwrdd Iechyd Hywel Dda)

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gofal a lles iechyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ardaloedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae ei bencadlys wedi'i leoli ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin. Fe’i sefydlwyd ar 1 Hydref 2009 ar ôl uno Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin. Ffurfiwyd hen Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda ar 1 Ebrill 2008 gan ddisodli Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin, Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Enghraifft o'r canlynolbyrddau Iechyd Cymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Hydref 2009 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auYsbyty Cyffredinol Bronglais, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Ysbyty Cyffredinol Y Llwyn Helyg Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru, Hwlffordd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://hduhb.nhs.wales/ Edit this on Wikidata

Fe'i henwir ar ôl y Brenin Hywel Dda.

Mae'r GIG yn cynnal pedwar prif safleodd iechyd ysbyty sef:

  1. Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth;
  2. Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Caerfyrddin;
  3. Ysbyty Llwyn Helyg, Hwlffordd;
  4. Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.