Ynys yr Halen

ynys yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Ynys Halen)

Ynys gerllaw Caergybi ar Ynys Gybi, ei hun yn ynys ger arfordir gogledd-orllewinol Ynys Môn, yw Ynys yr Halen (Saesneg: Salt Island). Mae cob yn ei chysylltu ag Ynys Gybi.

Ynys yr Halen
Mathynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3161°N 4.624°W Edit this on Wikidata
Map

Oddi yma mae'r gwasanaethau fferi i Dún Laoghaire a Dulyn yn Iwerddon yn cychwyn. Nid oes mynediad cyhoeddus i'r ynys, ac eithrio i'r sawl sy'n teithio ar y fferi. Daw'r enw o ffatri ar yr ynys yn y 18g, oedd yn prosesu dŵr y môr i gynhyrchu halen. Caeodd y ffatri yn 1775.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato