Ysgol-lys cywasg
Ysgol-lys cywasg Nardia compressa | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Jungermanniaceae |
Genws: | Nardia |
Rhywogaeth: | N. compressa |
Enw deuenwol | |
Nardia compressa |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Ysgol-lys cywasg (enw gwyddonol: Nardia compressa; enw Saesneg: compressed flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Mae'n tyfu mewn lleoedd asidig gwlyb ar greigiau a cherrig mewn nentydd ac afonydd byw, ac weithiau mewn tywod a graean.
Disgrifiad
golyguYn tyfu mewn clustogau neu fatiau tenau, gyda choesynau codi i fyny, neu'n brostad ac weithiau'n ffurfio tyweirch helaeth. Mae'r dail fel arfer wyrdd tywyll mewn safleoedd cysgodol, ond gallant fod yn goch neu'n goch tywyll neu hyd yn oed yn borffor tywyll, tywyll mewn safleoedd mwy agored. Mae'r egin, fel arfer, yn 1–2 mm o led (i'w weld o'r ochr), a 1–2 cm o hyd, ond gallant fod hyd at 15 cm yn yr ucheldir. Mae'r dail yn grwm ac yn aml yn lletach nag yn hir (3 mm o led a hyd at 1.8 mm o hyd).[1]
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 25 Hydref 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.