Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa

(Ailgyfeiriad o Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa)

Ysgol uwchradd gyfun yng Nghefneithin yng Nghwm Gwendraeth yw Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa, sy'n darparu addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr ardal rhwng Caerfyrddin a thref Llanelli. Ysgol categori 2A ydyw, yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru. Mewn ysgol o'r fath addysgir o leiaf 80% o’r pynciau ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl ac mae un neu ddau o bynciau yn cael eu haddysgu i rai o’r disgyblion yn Saesneg neu yn y naill iaith a’r llall.[2]

Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Lleoliad 74 Heol Y Parc, Cefneithin, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA14 7DT
AALl Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgyblion 793 [1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18

Ym Medi 2013 bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn uno'r ysgol ag Ysgol y Gwendraeth, sy'n ysgol categori 3EW (cyfrwng Saesneg yn bennaf gyda defnydd arwyddocaol o'r Gymraeg). Enw'r ysgol newydd (a fydd yn ysgol categori 2A) fydd Ysgol Maes y Gwendraeth. Fe'i lleolir am y tro ar gampws y ddwy ysgol, ond yn y pen draw bydd yn cael ei lleoli'n barhaol ar safle Ysgol Maes-yr-yrfa.[3]

Ers Medi 2008 mae'r ysgol yn medru darparu pynciau anhraddodiadol megis Adeiladwaith a Thrin Gwallt cyfrwng Cymraeg, ymysg eraill, mewn cydweithrediad ag Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Gyfun y Strade ac Ysgol Rhydygors.

Cyn ddisgyblion adnabyddus

golygu
Gweler y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa

Mae gan Ysgol Maes-yr-Yrfa gryn dipyn o gyn ddisgyblion adnabyddus:

  • Alex Jones - Cyflwynydd 'The One Show' ar gyfer BBC
  • Aled Pugh - Actor ac enillydd BAFTA Cymru am yr Actor gorau 2010.
  • Nigel Owens - Dyfarnwr rygbi rhyngwladol
  • Dwayne Peel - Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol sydd wedi ennill 76 cap dros Gymru
  • Arwel Davies - Actor sy'n chwarae cymeriad 'Eifion' yn opera sebon S4C Pobol y Cwm
  • Sara Gregory - Actores
  • Nia Medi - Cyflwynwraig C2 BBC Radio Cymru
  • Aled Powys Williams - Aelod o gor 'Only Men Aloud - enillwyr 'Last Choir Standing' BBC

Cyfeiriadau

golygu