Ysgol Gyfun Rhydywaun
Cyfesurynnau: 51°44′00″N 3°29′33″W / 51.733203°N 3.492587°W Ysgol Gymraeg ger Hirwaun, Aberdâr yw Ysgol Gyfun Rhydywaun. Lleolir yr ysgol ar gyrion pentref Penywaun.
Arwyddair | 'Bydd Wir, Bydd Weithgar' |
---|---|
Sefydlwyd | 1995 |
Math | Ysgol gyfun |
Mr. Mark Jones | |
Lleoliad |
Rhodfa Lawrence Penywaun Rhondda Cynon Taf CF44 9ES Cymru |
Awdurdod lleol | Rhondda Cynon Taf |
Myfyrwyr | 1000+ |
Rhyw | Bechgyn a merched |
Ystod oedran | 11–18 |
Tai | 7 |
Lliwiau | Coch, du, ac aur |
Gwefan | rhydywaun.org |
Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 1995. Sefydlwyd yr ysgol er mwyn delio â'r niferoedd cynyddol o ddisgyblion a oedd yn mynychu ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal. Cyn iddi agor yr oedd rhaid i blant Cwm Cynon a Chwm Taf deithio i Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd, er mwyn derbyn addysg uwchradd Gymraeg.
Mae Ysgol Gyfun Rhydywaun yn derbyn disgyblion o bum ysgol gynradd Gymraeg, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon, Ysgol Gymunedol Penderyn, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydygrug ac Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful.
Mae cyn-ddisgyblion yr ysgol yn cynnwys y chwaraewr rygbi rhyngwladol Tom Young.
Bydd wir Bydd weithgar yw arwyddair yr ysgol.