Ysgol Gyfun Sant Cyres
Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mhenarth, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gyfun Sant Cyres (Saesneg: St Cyres Comprehesive School).
Ysgol Gyfun Sant Cyres | |
---|---|
St Cyres Comprehensive School | |
Arwyddair | Strive Together, Challenge Yourself, Realise Everyone can Succeed |
Ystyr yr arwyddair | Ymdrechu Ynghyd, Heriwch eich Hunain, Sylweddolwch gall Bawb Lwyddo |
Sefydlwyd | 1958 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mr Brian P Lightman |
Cadeirydd | Mrs A Males OBE |
Arbenigedd | Sefydliad yn Rhaglen Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol |
Lleoliad | Clos Sant Cyres, Penarth, Bro Morgannwg, Cymru, CF64 2XP |
AALl | Bro Morgannwg |
Staff | tua 130 |
Disgyblion | 1,479 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Coch a du |
Gwefan | stcyres.valeofglamorgan.sch.uk |
Ar y funud, mae gan yr ysgol 1,479 o ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed gan gynnwys 251 yn y chwechedd ddosbarth, Mae'r ysgol wedi ei rannu rhwn dwy safle yn bresennol, gyda tua 1,100 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 13 yn y brif safle ar gyrion tref Penarth, ac adeilad arll rhyw 2.5 milltir i ffwrdd yn Ninas Powys sy'n gartref i rhwng 300 a 400 o ddisgyblion blynyddoedd 7 i 9.[1]
Bydd y prifathro presennol Mr Brian P Lightman yn gadael yr ysgol ym mis Medi 2010, wedi blwyddyn mewn secondiad i ddod yn ysgrifennydd cyffredinol yr ASCL (Association of School and College Leaders), yn cynyrchioli dros 14,000 o aelodau.[2]
Hanes
golyguSefydlwyd yr ysgol ym 1958, Ysgol Uwchradd Fodern Sant Cyres (St Cyres Secondary Modern School) oedd enw'r ysgol yn wreiddiol, cyn iddi gael ei throi'n ysgol gyfun.
Bagloriaeth Cymru
golyguRoedd Ysgol Gyfun Sant Cyres yn un o ddau ganolfan peilot ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn 2005/2006, ynghyd ag Coleg Llandrillo Cymru. Bu tua 400 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y peilot yn Llandrillo.[3]
Talgylch yr ysgol
golyguY prif ysgolion yn nhalgylch Sant Cyres ydy Ysgol Gynradd Llandough, Ysgol Gynradd Sirol Fairfield, Ysgol Gynradd Cogan ac ysgolion cynradd Dinas Powys. Daw 20% o'r disgyblion o du allan i dalgylch yr ysgol yn l dewis y rhieni.
Bathodyn yr ysgol
golyguMae arfbais yr ysgol yn chwarteri gyda symbol wahanol ym mhob chwarter:
Cyn-ddisgyblion o nôd
golygu- David Davies - nofiwr
- Tanni Grey-Thompson DBE - athletwraig Paralympaidd
- Jamie Ringer - chwaraewr rygbi'r undeb
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Hydref 2009) Gam yn nes at un safle ar gyfer ysgol, Rhifyn 25. Llais y Fro. URL
- ↑ Darren Evans (16 Ionawr 2010). Profile Cymru: The quiet confidence and commitment that persuaded a union to see the Lightman. TES Cymru.
- ↑ Y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (18 Hydref 2006).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ysgol Gyfun Sant Cyres Archifwyd 2010-07-30 yn y Peiriant Wayback