Ysgol Gynradd Gwaelod Y Garth

Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yng Ngwaelod-y-garth, Caerdydd ydy Ysgol Gynradd Gwaelod Y Garth (Saesneg: Gwaelod Y Garth Primary School). Y prifathro presennol yw Mr Iwan Ellis.[2]

Ysgol Gynradd Gwaelod Y Garth
Gwaelod Y Garth Primary School
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog, unedau Cymraeg a Saesneg
Pennaeth Mr Iwan Ellis
Dirprwy Bennaeth Mr E. B. Williams
Lleoliad Y Brif Ffordd, Gwaelod-y-garth, Caerdydd, Cymru, CF15 9HJ
AALl Cyngor Caerdydd
Staff 43 (11 athro)
Disgyblion 193 (2007)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Gwefan ysgolgwaelodygarth.cardiff.sch.uk

Enillodd Marc Ansawdd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yng Ngwanwyn 2005.[1] Wedi adeiladu bloc newydd, sefydlwyd Uned Feithrin Gymraeg yn yr ysgol ym mis Medi 2006, y tro cyntaf ers 1995 i addysg feithrin gael ei ddarparu yn yr ysgol hon. Mae'r uned feithrin yn rhedeg rhan amser yn y boreuon yn unig.

Roedd 193 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2007, gan gynnwys 25 yn yr uned feithrin. Derbyniai dros 70% o'r disgyblion eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.[1]

Wedi cwblhau blwyddyn 7 yn y system addysgol bydd disgyblion yr uned Saesneg yn trosglwyddo i Ysgol Gyfun Radur. Mae dewis rhwng Ysgol Gyfun Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ar gyfer disgyblion yr uned Gymraeg.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.