Ysgol Pentrecelyn

Ysgol gynradd naturiol Gymraeg yw Ysgol Pentrecelyn, wedi ei leoli yn ardal wledig Pentrecelyn yn Nyffryn Clwyd, Sir Ddinbych. Adeiladwyd yr ysgol yn 1874 a'i adnewyddu yn 1970'au gyda Tŷ'r Ysgol yn cael ei drawsnewid i ddosbarth dysgu. Fe ddaw plant i'r ysgol o'r ardaloedd cyfagos: (Llanelidan, Graigfechan, Pentrecelyn a Llandegla) i dderbyn eu haddysg.

Ysgol Pentrecelyn
Arwyddair Gwreiddiau Cadarn, Sylfaen i'r Dyfodol
Sefydlwyd 1874
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Bethan Madoc-Jones (Pennaeth Dros Dro)
Lleoliad Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru, LL15 2HG
AALl Cyngor Sir Ddinbych
Disgyblion 35[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 4–11
Lliwiau gwyrddlas
Gwefan ysgolpentrecelyn.org.uk

Mae cyfleusterau rhagorol yr ysgol yn cynnwys ystafell fawr ymarferol gydag adnoddau Crefft, Dylunio a Thechnoleg, Cerddoriaeth a Llyfrgell, neuadd fodern gyda chyfarpar ar gyfer Drama, Symud a Chân, cynyrchiadau ysgol a gwasanaethau. Mae’r cyfleusterau y tu allan yn cynnwys gardd ddeniadol a thŷ gwydr, buarth chwarae fawr ynghyd â chae chwarae a gerddi ychwanegol.

Bu y tenor enwog Rhys Meirion yn bennaeth ar yr ysgol am gyfnod cyn iddo fynd ymlaen i fod yn ganwr broffesiynol yn myd opera.

Cymraeg yw cyfrwng y gwersi ac yn 2008 roedd 44% o'r disgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg, Mae pob plentyn sy'n gadael yr Ysgol yn gwbl ddwy-ieithog.[2]

Yn 2015 roedd y cyngor sir yn ystyried cau'r ysgol gan agor ysgol newydd ddwyieithog drwy ymuno yr ysgol gyda Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, sydd yn ysgol ddwyieithog nid ysgol Gymraeg fel Pentrecelyn.[3]

Disgyblion enwog golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Adroddiad Estyn - Tachwedd 2014. Estyn (Tachwedd 2014). Adalwyd ar 5 Ebrill 2016.
  2.  Adroddiad Arolygiad Ysgol Gynradd Pentrecelyn, 13 Hydref 2008. ESTYN (26 Tachwedd 2012).
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 20 Ionawr 2015

Dolenni allanol golygu