Ysgol Uwchradd Eirias

Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mae Colwyn ydy Ysgol Uwchradd Eirias (Saesneg: Eirias High School). Mae'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 18 oed. Cyfeiria enw'r ysgol at yr Eirias ganoloesol a goffeir yn enw Parc Eirias, parc cyhoeddus ger yr ysgol.

Ysgol Uwchradd Eirias
Eirias High School
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Phil McTague
Lleoliad Ffordd Eirias, Bae Colwyn, Conwy, Cymru, LL29 7SP
AALl Cyngor Sir Conwy
Staff 85
Disgyblion 1521 (2009)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Llywelyn Hawks (glas)
Madog Kites (coch)
Glyndwr Eagles (melyn)
Gwynedd Falcons (gwyrdd)
Lliwiau Browngoch
Gwefan http://www.eirias.co.uk

Roedd 1521 o disgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2009, gan gynnwys 279 yn y chweched ddosbarth. Disgrifiodd yr adroddiad yr ysgol fel "ysgol dda iawn gyda llawer o nodweddion rhagorol".[1]

Yn nhymor 2008-2009, cyflwynwyd pedwar tŷ ysgol newydd ar gyfer y disgyblion gyda theis o wahanol liwiau, sef coch, gwyrdd. glas a melyn. Enwau'r tai yw: Eryrod Glyn Dŵr/Glyndwr Eagles (melyn), Hebogiaid Llywelyn/Llywelyn Hawks (glas), Cudyllod Madog/Madog Kites (coch) a Gweilch Gwynedd/Gwynedd Falcons (gwyrdd).

Cyfeiradau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.