Llysfaen
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Llysfaen.[1][2] Saif ar arfordir gogledd y sir, hanner milltir o'r môr tua hanner ffordd rhwng Abergele i'r dwyrain a Bae Colwyn i'r gorllewin. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Hen Golwyn, Llanddulas, Dolwen a Betws-yn-Rhos. I'r dwyrain ceir Mynydd Marian. Mae tua 2,680 o bobl yn byw yno ([1] Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback. 2005).
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.283°N 3.666°W ![]() |
Cod SYG | W04000132 ![]() |
Cod OS | SH887771 ![]() |
Cod post | LL29 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
- Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at bentref ar arfordir gogledd Cymru; am yr ardal ag enw tebyg yng Nghaerdydd, gweler Llys-faen.
Heddiw mae'r pentref yn rhan o sir Conwy, ond hyd 1923 bu'n alldir o'r hen Sir Gaernarfon wedi ei amgylchu'n gyfangwbl gan yr hen Sir Ddinbych; bu'n rhan o sir Clwyd o 1974 hyd 1996. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gantref Rhos. Mae eglwys Sant Cynfran yn dyddio i'r Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad lleol fe'i sefydlwyd gan y sant yn y flwyddyn 777.
Am gyfnod hir bu llawer o bobl y pentref yn gweithio yn chwareli calchfaen cyfagos Llysfaen a Llanddulas. Cludai llongau arfordirol y calchfaen i Lerpwl neu Fleetwood o Sieti Rayne ym Mae Llanddulas.
Ceir ysgol gynradd leol, Ysgol Cynfran, siop SPAR, neuad y pentref, a thri pharc.
Eglwys Sant CynfranGolygu
Dywedir i'r eglwys gael ei sefydlu gan Sant Cynfran yn 777. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1377 ond mae'n cynnwys meini o'r eglwys gynharach. Yn 1870 cafodd yr eglwys ei adnewyddu'n sylweddol ar gost o £1,950 a chollwyd nifer o baneli pren canoloesol. Mae rhai o'r cofebion yn yr eglwys yn dyddio i'r 17g. Amgylchynir y llan gan wal cerrig a cheir Ffynnon Gynfran tua 100 medr i'r gogledd o'r eglwys.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) GENUKI Archifwyd 2007-09-30 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Ymddiredolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys: Eglwys St. Cynfran, Llysfaen Archifwyd 2008-02-26 yn y Peiriant Wayback.
- Clwyd Family History Society: lluniau o'r eglwys Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback.
Trefi
Abergele ·
Bae Colwyn ·
Betws-y-Coed ·
Conwy ·
Cyffordd Llandudno ·
Degannwy ·
Hen Golwyn ·
Llandudno ·
Llanfairfechan ·
Llanrwst ·
Penmaenmawr ·
Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel ·
Bae Penrhyn ·
Betws-yn-Rhos ·
Bryn-y-maen ·
Bylchau ·
Caerhun ·
Capel Curig ·
Capel Garmon ·
Cefn Berain ·
Cefn-brith ·
Cerrigydrudion ·
Craig-y-don ·
Cwm Penmachno ·
Dawn ·
Dolgarrog ·
Dolwen ·
Dolwyddelan ·
Dwygyfylchi ·
Eglwys-bach ·
Esgyryn ·
Gellioedd ·
Glanwydden ·
Glasfryn ·
Groes ·
Gwytherin ·
Gyffin ·
Henryd ·
Llanbedr-y-cennin ·
Llandrillo-yn-Rhos ·
Llanddoged ·
Llanddulas ·
Llanefydd ·
Llaneilian-yn-Rhos ·
Llanfair Talhaearn ·
Llanfihangel Glyn Myfyr ·
Llangernyw ·
Llangwm ·
Llangystennin ·
Llanrhos ·
Llanrhychwyn ·
Llan Sain Siôr ·
Llansanffraid Glan Conwy ·
Llansannan ·
Llysfaen ·
Maenan ·
Y Maerdy ·
Melin-y-coed ·
Mochdre ·
Nebo ·
Pandy Tudur ·
Penmachno ·
Pensarn ·
Pentrefelin ·
Pentrefoelas ·
Pentre-llyn-cymmer ·
Pentre Tafarnyfedw ·
Pydew ·
Rowen ·
Rhydlydan ·
Rhyd-y-foel ·
Tal-y-bont ·
Tal-y-cafn ·
Trefriw ·
Tyn-y-groes ·
Ysbyty Ifan