Ysgolion Cylchynol Cymreig

(Ailgyfeiriad o Ysgolion Cylchynol)

Cyfundrefn addysg yn ystod y 18g oedd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig. Sefydlwyd hwy gan Griffith Jones, Llanddowror (1683 - 1761).[1]

Ysgolion Cylchynol Cymreig

Dechreuodd Griffith Jones cyntaf o'i ysgolion cylchynol yn 1731. Roedd ysgolion wedi eu cynnal dan nawdd yr SPCK, ond erbyn y 1720au roedd dylanwad y rhain ar drai. Un rheswm am hyn oedd bod yr SPCK yn amheus iawn o'r iaith Gymraeg. Cymraeg oedd iaith ysgolion Griffith Jones, ac roedd yr addysg yn canolbwyntio ar ddysgu darllen Cymraeg, i ddarllen y Beibl Cymraeg a gweithiau defosiynol megis Canwyll y Cymry, ac i adrodd catecism Eglwys Loegr. Roedd yr ysgolion mewn un man am ryw dri mis, fel arfer yn y gaeaf pan oedd amser gan y ffermwyr i fynychu'r ysgol. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion; plant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r nos gan amlaf. Dywedid fod y disgyblion disgleiriaf yn medru dysgu darllen mewn chwech i saith wythnos.[1]

Bu Griffith Jones yn brysur yn codi arian ar gyfer yr ysgolion; y prif gyfranwyr oedd Syr John Philipps a Bridget Bevan (Madam Bevan) o Dalacharn. Telid tua £5 y flwyddyn i'r athrawon, oedd yn cael eu hyfforddi yn Yr Hen Goleg yn Llanddowror. Erbyn 1740 roedd 150 o ysgolion wedi ei sefydlu, y rhan fwyaf yn ne Cymru. Yn ddiweddarach lledaenodd yr ysgolion yn y gogledd hefyd. Erbyn 1758 roedd 218 o ysgolion, gyda nifer sylweddol o ddisgyblion ym mhob sir heblaw Sir y Fflint a Sir Drefaldwyn. Wedi marwolaeth Griffith Jones yn 1761, parhawyd yr ysgolion gan Madam Bevan. Pan fu hi farw yn 1779 gadawodd £10,000 i barhau'r ysgolion, ond cystadlwyd ei hewyllys ac ni chafwyd penderfyniad cyfreithiol am 31 mlynedd. Oherwydd diffyg arian, daeth y cynllun i ben.[1]

Amcangyfrifa Geraint Jenkins fod yr ysgolion cylchynol wedi dysgu tua 250,000 o bobl i ddarllen, allan o boblogaeth o tua 490,000. Erbyn marwolaeth Griffith Jones, roedd Cymru yn mwynhau un o'r lefelau llythrennedd gorau yn y byd, cymaint felly nes i'r Ymerodres Catrin Fawr o Rwsia yrru comisiynydd i weld a oedd modd addasu'r system ar gyfer Rwsia.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Geraint H. Jenkins, The Foundations of Modern Wales, 1642-1780 (Rhydychen: Clarendon Press, 1987)