Zarautz
Mae Zarautz (Sbaeneg: Zarauz) yn dref arfordirol wedi'i leoli yn Gipuzkoa, Euskadi, Sbaen. Mae'n ffinio ag Aia i'r dwyrain a'r de a Getaria i'r gorllewin. Mae ganddi bedair amgaead sy'n cyfyngu'r bwrdeistrefi uchod: Alkortiaga, Ekano, Sola, ac Arbestain. Mae Zarautz tua 15km i'r gorllewin o Donostia. Yn 2014 roedd gan Zarautz boblogaeth o 22,890, gyda'r boblogaeth yn chwyddo i tua 60,000 yn yr haf diolch i dwristiaid. Mae Zarautz yn dref lle mae 74% o'r boblogaeth yn siarad Basgeg (Euskara) ac mae 11% arall yn ei deall.[1]
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Poblogaeth | 23,152 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Xabier Txurruka |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Cardano al Campo, Pontarlier, El Hagounia |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Basgeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Azpeitia (ardal farnwrol ), Urola Kostako Udal Elkartea/Mancomunidad Urola Kosta, UEMA - Udalerri Euskaldunen Mankumunitatea |
Sir | Urola Kosta |
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Arwynebedd | 14.8 km² |
Uwch y môr | 4 ±1 metr |
Gerllaw | Môr Cantabria |
Yn ffinio gyda | Aizarnazabal, Aia, Getaria |
Cyfesurynnau | 43.2863°N 2.1748°W |
Cod post | 20800 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Zarautz |
Pennaeth y Llywodraeth | Xabier Txurruka |
Lleolir Palas Narros, ger traeth Zarautz, traeth 2.8km o hyd, lle treuliodd y Frenhines Isabella II a Fabiola o Wlad Belg eu gwyliau haf ar un adeg. Mae'r traeth yn adnabyddus am fod yr hiraf yn Euskadi (Gwlad y Basg) ac yn un o'r hiraf yn y Gordo Cantabriaidd (yn ddaearyddol y Gordo Cantabraidd yw'r ardal eang ogleddol, penrhyn Iberia sy'n ymestyn o Galisia yn ddwyreiniol ar hyd yr arfordir i Euskadi ac ar hyd Mynyddoedd y Pyreneau i Gatalonia ar Fôr y Canoldir.)
Maer Zarautz ers 2015 yw Xabier Txurruka (Plaid Genedlaetholgar Gwlad y Basg).
Hanes
golygu- 1237: Mae'r safle wedi'i sefydlu fel tref a'i siarteri Navarraidd wedi'u cadarnhau gan y brenin Fernando III o Castile.
- 1857: Dechrau'r Chwyldro Diwydiannol yn Zarautz, diolch i'r fenter "Fabril Linera". Mae oes o dwf a datblygiad economaidd yn cychwyn.
- 1936: Mae'r Rhyfel Cartref yn cychwyn ac mae cefnogaeth ysgubol yn Zarautz tuag at achos y Gweriniaethwyr.
- 1936: Mae'r dalaith yn disgyn i luoedd Falangistaidd yn Rhyfel Cartref Sbaen, sy'n cyflawni dial yn erbyn cenedlaetholwyr Gwlad y Basg.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif, a dechrau'r 20fed ganrif, tyfodd poblogrwydd Zarautz fel cyrchfan i dwristiaid moethus, a dechreuodd llawer o bobl adnabyddus ddewis i dreulio'u gwyliau yno. Cododd nifer o dai a phlastai moethus, yn enwedig ar hyd y traeth. Y dyddiau hyn, mae llawer o'r adeiladau hyn wedi dod yn adeiladau cyhoeddus neu wedi cael eu dymchwel a'u disodli gan adeiladau fflatiau chic.
Yn ystod y 1970au a'r 1980au, daeth Zarautz yn gyrchfan fwy fforddiadwy, ac erbyn hyn efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei chwaraeon syrffio a dŵr.
Seilwaith a thrafnidiaeth
golyguFfordd
golyguMae Zarautz wedi'i gysylltu â rhwydwaith ffyrdd Ewrop ac â gweddill Sbaen ar draffordd yr A8.
Gastronomeg
golyguGan ei fod yn draddodiad yng Ngwlad y Basg, mae gastronomeg yn rhan bwysig iawn o Zarautz. Gellir dod o hyd i lawer o fwytai yn Zarautz, gan gynnig bwyd cain traddodiadol yn ogystal â modern. Mae Zarautz yn dref enedigol i un o'r cogyddion enwocaf yn Sbaen, Karlos Arguiñano, a gellir dod o hyd i'w fwyty o flaen y traeth. Hefyd creodd ysgol goginio o fri o'r enw Aiala . Fel ym mhob dinas o amgylch Gwlad y Basg mae yna lawer o gymdeithasau gastronomegol yn Zarautz. Maent yn draddodiadol iawn ac yn cael eu galw'n Txoko yn y Fasgeg.
Trafnidiaeth gyhoeddus
golyguMae gan Zarautz ddwy orsaf reilffordd, ac mae trenau (Euskotren) yn ei gysylltu â San Sebastian a Bilbao.
Mae gan Zarautz ddwy linell fws yn gweithredu yn y dref.
Amgueddfeydd
golyguMae dwy amgueddfa yn Zarautz, y Photomuseum [1] ac Amgueddfa Gelf a Hanes Zarautz [2] . Yn "Dorre Luzea" mae yna arddangosfeydd celf yn aml. Mae gan y dref lawer o orielau lluniau eraill hefyd.
Eglwysi
golyguMae tair prif eglwys yn Zarautz a llawer o eglwysi llai eraill. Santa Maria la Real yw'r brif eglwys, gyda darn allor diddorol iawn a strwythur Romanésg. Mae Santa Clara hefyd yn eithaf diddorol, wedi'i hadeiladu mewn arddull baróc. Mae eglwys Franciscanos wedi ei hail adeiladu, a sydd gyda llyfrgell ddiddorol iawn.
Hamdden
golyguMae gan Zarautz gyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, fel Clwb Golff hen a chain. Ond mae Zarautz yn enwog ledled y byd fel cyrchfan syrffio. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wedi dod yn hynod boblogaidd ymhlith syrffwyr, ac mae hyd yn oed nifer o ysgolion syrffio wedi'u sefydlu (Zarautz, Pukas).
Chwaraeon
golyguZarautz yw man geni'r Ffederasiwn Codi Pwysau Basgeg yn ogystal â Ffederasiwn Codi Pwysau Gipuzkoa. Ers 1968 mae codi pwysau (ZKEhalterofilia) wedi bod yn un o'r chwaraeon y gellir eu hymarfer yn y clwb chwaraeon lleol (Zarautz Kirol Elkartea). Ers hynny, bob haf mae digwyddiad codi pwysau rhyngwladol wedi digwydd yn y dref. Ar y dechrau, cymerodd athletwyr enwog iawn ran yn y gystadleuaeth honno fel Serge Reding ac Alain Terme i enwi ond ychydig. Yn ddiweddar, mae'r digwyddiad wedi dod yn gystadleuaeth clwb lle mae'r pencampwr Ffrengig Girondins de Bordeaux wedi ennill y rhan fwyaf o'r prif wobrau.
Mae'r dref hefyd yn enwog fel un o fannau syrffio mwyaf poblogaidd Sbaen. Mae ei thraeth 2.5km o hyd yn cynnig syrffio cyson iawn gyda llawer o gopaon gwahanol ar gyfer syrffwyr o bob safon. Mae'r dref yn le gwych i ddysgu sut i syrffio ac mae wedi bod yn gartref i lawer o bencampwyr syrffio Sbaen. Mae Zarautz yn un o arosfannau Cyfres Ragbrofol Cynghrair Syrffio'r Byd. [2]
Gefaill-drefi a chwaer-ddinasoedd
golygu- Cardano al Campo, yr Eidal
- Pontarlier, Ffrainc
Cyfeiriadau
golygu- ↑ [turismo@zarautz.eus "Zarautz"] Check
|url=
value (help). Llywodraeth Gwlad y Basg. Cyrchwyd 24 Ebrill 2020. - ↑ https://www.worldsurfleague.com/events/2019/mqs/3010/cabreiro-pro-zarautz-basque-country
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol (yn Basgeg a Sbaeneg)
- Twristiaeth yn Zarautz
- Gwefan traethau pentref