Zora Neale Hurston
Awdur dylanwadol Affro-Americanaidd oedd Zora Neale Hurston (7 Ionawr 1891 - 28 Ionawr 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel anthropolegydd, hanesydd, nofelydd newyddiadurwr ac arbenigwr mewn llên gwerin.[1][2] Darluniodd yn ei nofelau y frwydr hiliol yn Ne'r Unol Daleithiau a'r ymarfer o Vodou yn Haiti.[3][4][5][6][7][8][9]
Zora Neale Hurston | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ionawr 1891 Notasulga |
Bu farw | 28 Ionawr 1960 Fort Pierce |
Man preswyl | Zora Neale Hurston House |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | anthropolegydd, hanesydd, nofelydd, llenor, newyddiadurwr, arbenigwr mewn llên gwerin, ymgyrchydd hawliau sifil, dramodydd, cyfarwyddwr ffilm |
Adnabyddus am | Their Eyes Were Watching God |
Prif ddylanwad | Fannie Hurst, Franz Boas, Ruth Benedict |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Mudiad | Dadeni Harlem |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Hall of Fame Merched Florida, Hall of Fame Artistiaid Florida, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Cymrodoriaeth Guggenheim, Oriel yr Anfarwolion Alabama |
Gwefan | https://zoranealehurston.com |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Notasulga, Alabama a bu farw yn Fort Pierce o strôc ond symudodd y teulu i Eatonville, Florida, ym 1894. Mae Eatonville yn lleoliad ar gyfer llawer o'i straeon. Mae bellach yn safle'r 'Gŵyl Zora!' a gynhelir bob blwyddyn er anrhydedd iddi.[10] Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Howard, Prifysgol Columbia a Choleg Barnard. [11][12]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Their Eyes Were Watching God (1937).[13] Ysgrifennodd hefyd dros 50 o straeon byrion, dramâu a thraethodau.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Weriniaethol.
Gyrfa
golyguYn ei gyrfa gynnar, cynhaliodd Hurston ymchwil anthropolegol ac ethnograffig tra'r oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Barnard a Phrifysgol Columbia. Roedd ganddi ddiddordeb mewn llên gwerin Affricanaidd-Americanaidd a Charibïaidd a chyfrannodd yn helaeth at hunaniaeth y gymuned honno.[angen ffynhonnell]
Y llenor
golyguMae Hurston yn gweithio ar y diwylliant Affro-Americanaidd ac ar y trafferthion o fod yn fenyw Affro-Americanaidd. Nid oedd y byd llenyddol yn cydnabod ei nofelau am rai degawdau, ac fe'i hanwybyddwyd gan lawer. Cafodd y diddordeb ei adfywio yn 1975 ar ôl i'r awdur Alice Walker gyhoeddi erthygl, In Search of Zora Neale Hurston, yn rhifyn mis Mawrth y flwyddyn honno o Ms..
Roedd yn rhaid aros tan 2001 cyn i'w gwaith Every Tongue Got to Confess gael ei gyhoeddi; dyma gasgliad o straeon gwerin a sgwennodd yn y 1920au, a gadwyd dan glo yn archifdy'r Smithsonian.[14] Ac yn 2018, cyhoeddwyd Barracoon: The Story of the Last "Black Cargo", llyfr am fywyd Cudjoe Lewis (Kossola).[15]
Magwraeth
golyguHurston oedd y chweched o wyth o blant John Hurston a Lucy Ann Hurston (née Potts). Roedd pob un o'i phedwar teidiau a neiniau wedi cael eu geni i gaethwasiaeth. Roedd ei thad yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ac yn gyfranddaliwr, a ddaeth yn saer coed yn ddiweddarach ac roedd ei mam yn athrawes ysgol. Fe'i ganed yn Notasulga, Alabama, ar Ionawr 7, 1891, lle cafodd ei thad ei fagu a lle roedd ei thaid (tad ei thad) yn bregethwr yn eglwys y Bedyddwyr.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1936), 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1994), Hall of Fame Merched Florida (1984), Hall of Fame Artistiaid Florida, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf (1943), Cymrodoriaeth Guggenheim (1937), Oriel yr Anfarwolion Alabama (2013)[16][17][18][19] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Boyd, Valerie (2003). Wrapped in Rainbows: The Life of Zora Neale Hurston (yn Saesneg). New York: Scribner. t. 17. ISBN 978-0-684-84230-1.
- ↑ Hurston, Lucy Anne (2004). Speak, So You Can Speak Again: The Life of Zora Neale Hurston. New York: Doubleday. t. 5. ISBN 978-0-385-49375-8.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_167. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 18 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston".
- ↑ Dyddiad marw: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston".
- ↑ Man claddu: https://www.cityoffortpierce.com/400/Trail-Marker-4. dyddiad cyrchiad: 21 Tachwedd 2023. https://billiongraves.com/headstone/Zora-Neale-Hurston/103656938. dyddiad cyrchiad: 21 Tachwedd 2023.
- ↑ Trefzer, Annette (2000). "Possessing the Self: Caribbean Identities in Zora Neale Hurston's Tell My Horse". African American Review 34 (2): 299–312. doi:10.2307/2901255. JSTOR 2901255. https://archive.org/details/sim_african-american-review_summer-2000_34_2/page/299.
- ↑ "ZORA! Festival Homepage". zorafestival.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 26, 2019. Cyrchwyd Mehefin 21, 2017. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Alma mater: "Zora Neale Hurston (1891-1960)" (yn Saesneg). 29 Ionawr 2007. Cyrchwyd 4 Mai 2020.
- ↑ Anrhydeddau: "Zora Neale Hurston". dyddiad cyrchiad: 5 Tachwedd 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. "Hurston, Zora Neale" (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Mai 2020. https://flwomenshalloffame.org/bio/zora-neale-hurston/. "Zora Neale Hurston". dyddiad cyrchiad: 5 Tachwedd 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. http://www.awhf.org/inductee.html.
- ↑ Rae, Brianna (2016-02-19). "Black History Profiles – Zora Neale Hurston". The Madison Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-10.
- ↑ "The Largesse of Zora Neale Hurston". villagevoice.com (yn Saesneg).
- ↑ Cep, Casey. "Zora Neale Hurston's Story of a Former Slave Finally Comes to Print". The New Yorker (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-11.
- ↑ "Zora Neale Hurston". dyddiad cyrchiad: 5 Tachwedd 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg.
- ↑ "Hurston, Zora Neale" (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Mai 2020.
- ↑ https://flwomenshalloffame.org/bio/zora-neale-hurston/.
- ↑ http://www.awhf.org/inductee.html.