Pentref gwledig a chymuned yn ardal Arfon, Gwynedd, yw Betws Garmon ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar yr A4085 ar ymyl Eryri, traean o'r ffordd rhwng Caernarfon a Beddgelert; Cyfeirnod OS: SH 54546 56819. Ar hyd y ffordd i gyfeiriad y gogledd, Waunfawr yw'r pentref agosaf ac i'r de mae'r ffordd yn ei gysylltu â Salem a Rhyd-ddu, pentref genedigol T. H. Parry-Williams.

Betws Garmon
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth249 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,900.26 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.08°N 4.163°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000050 Edit this on Wikidata
Cod OSSH535575 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Mae lleoliad y pentref yng ngogledd Eryri gyda bryniau Moel Eilio (2382') i'r dwyrain a thalp Mynydd Mawr (2290') i'r de-orllewin. Llifa Afon Gwyrfai sy'n tarddu yn Llyn Cwellyn tair milltir i'r de, heibio i'r pentref, sy'n sefyll ar ei glan ddwyreiniol. Filltir y tu allan i'r pentref i'r de, ar ymyl yr A4085, mae Melin y Nant a'i rhaeadr fach.

Safleodd cysylltiedig â Garmon golygu

Mae'r eglwys, sy'n dyddio o 1842, yn un o nifer yng Nghymru sy'n gysegredig i Sant Garmon. Ond yr eglwys newydd yw honno, a cheir olion yr hen eglwys yn ei hymyl. Dim ond y bedyddfaen sy'n aros o'r hen eglwys, a hwnnw'n ddyddiedig 1634. I fyny ar un o'r bryniau gerllaw, Moel Smytho, ceir Ffynnon Armon, dros y cwm o'r eglwys bresennol, a rhwng y ffynnon a'r eglwys newydd mae olion hen addoldy syml o'r enw Capel Garmon. Un drws yn unig sydd iddo a'i hyd yw 23' a'i led 12.5'.[1]

Hanes golygu

 
Llun o eiddo teulu Williams, Gilwern Uchaf, Rhostryfan, gyda diolch am y cyfle ï'w gopio. Y dyddiad o dan y llun mewn ysgrifen copperplate yw 10 Awst 1883. “Bettws Garmon photographed by I.Ninsley” sydd odditano.

Dyma'r argraffiadau cyntaf: mae cledrau rheilffordd [1] ar y gwaelod-chwith. Nid yw tyllau mwynglawdd haearn Moel Eilio wedi eu creu. Mae cof-golofn Owain Gwyrfai yn ymddangos fel ei fod yno yn y fynwent ond angen gwirio hynny. Bu farw yn 1874 naw mlynedd cyn tynnu'r llun. Dydd Gwener oedd y 10 Awst 1883 ond mae'r bobl i'w gweld fel petaent yn eu dillad gorau - achlysur arbennig ynteu dangos eu hunain i'r camera? Ffrwydrodd llosgfynydd Krakatoa tair wythnos wedyn. Gofynnodd Ifor Williams: ”a ddaeth y bobl allan gan wybod fod yna rhywun yn tynnu llun, neu bod y ffotograffydd wedi gofyn iddynt?[2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Betws Garmon (pob oed) (249)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws Garmon) (131)
  
54.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws Garmon) (123)
  
49.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Betws Garmon) (34)
  
30.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Harold Hughes a H.L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, 1984).
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 69
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.