Llanberis

pentref yng Ngwynedd

Pentref mawr a chymuned yng nghalon Eryri, yng Ngwynedd, yw Llanberis ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Llanbêr. Daw'r enw o sant Peris, er mai eglwys pentref cyfagos Nantperis oedd y sefydliad gwreiddiol. Sant o'r 6g oedd Peris. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd y boblogaeth yn 1,954 ac roedd 81% yn siarad Cymraeg yn rhugl, a 100% o'r bobl ifanc rhwng 10–15 oed yn siarad Cymraeg.

Llanberis
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMorbegno Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1208°N 4.1286°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000069 Edit this on Wikidata
Cod OSSH572602 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]

Tyfodd y pentref o amgylch Chwarel Dinorwig a chwaraeodd y diwydiant llechi ond bellach y cyflogwr mwyaf yn yr ardal ydy twristiaeth, Pwerdy Dinorwig a gwaith dŵr y Mynydd Trydan; mae yma hefyd ffatrioedd gan gwmniau Siemens Diagnostics a DMM. Gerllaw, saif adfeilion Castell Dolbadarn: castell a godwyd gan Llywelyn II yn y 13g. Peiniwyd y llyn a'r castell gan lawer o artistiaid gan gynnwys Richard Wilson and J.M.W. Turner.

Hen ffotograff o tua 1890-1900

Ymwelwyr golygu

  • Godfrey Goodman

Dewiswyd Godfrey Goodman (1583-1656), yn ddeon Rochester yn 1621, ac yn esgob Caerloyw yn 1625. Pan ddaeth Siarl I i'r orsedd yn 1625 fe'i cafodd ei hun fwy a mwy heb gydymdeimlad â'r polisi crefyddol. Rhwng 1626 a 1640 yr oedd tystiolaeth yn crynhoi a awgrymai ei fod wedi troi'n Babydd. Yn 1640 fe'i carcharwyd am wrthod torri ei enw wrth ganonau Laud, eithr fe'i rhyddhawyd pan gytunodd i wneuthur hynny. Bu yng ngharchar ddwywaith wedi hynny cyn 1643 a chymerwyd y rhan fwyaf o'i eiddo oddi arno. Yn ystod rhan o'r cyfnod 1643-7 bu'n llochesu ar eiddo (Tŷ Du) a oedd ganddo yn Llanberis.. Cafodd tref Rhuthyn lesâd o dan ei ewyllys.[3]

 
Llun a dynnwyd yn 1912 o grwp o fyfyrwyr o Crewe ar ymweliad maes yn aros yn Ty Dŷ, Lôn Clegyr, Llanberis
  • Criw o fyfyrwyr daearyddiaeth o Crewe ydy’r bobl ieuanc o flaen y tŷ (delwedd uchod). Ymwelasant â Llanberis yn 1912 gan daro heibio’r Hen Dŷ Du ar y 14 Mehefin. Roedd yr hen dy yn gyfan pryd hynny ond yn dechrau dadfeilio yn ôl y disgrifiad o’r wythnos yn y llyfr o eiddo Arwyn Roberts "A Week’s Work in Wales". Mae’r ty^ yn sefyll o hyd ar y Clegyr.[3]

Enwogion golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanberis (pob oed) (2,026)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanberis) (1,464)
  
74.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanberis) (1491)
  
73.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanberis) (304)
  
33.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. 3.0 3.1 Dafydd Whiteside ac Eco’r Wyddfa Hydref 2009
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato