Un o dri rhanbarth traddodiadol Tibet, gydag Amdo a Kham, yw Ü-Tsang (Tibeteg: དབུས་གཙང་ Dbus-gtsang) neu Tsang-Ü. Yn ddaearyddol, roedd Ü-Tsang yn cynnwys rhannau canolog a gorllewinol teyrnas Tibet, yn cynnwys y tir o gwmpas Afon Tsang-po (Gtsang-po), yr ardaloedd gorllewinol o gwmpas mynydd sanctaidd Kailash, a rhan sylweddol o lwyfandir eang Changthang (Byang-thang) i'r gogledd i gyfeiriad Mongolia. Ymestynnai felly o ffiniau Kham hyd at Ladakh (yn Jammu a Kashmir, India, heddiw). I'r de roedd cadwyn anferth yr Himalaya yn diffinio ffin ddeheuol Ü-Tsang. Mae Rhanbarth Ymreolaethol Tibet, a ffurfiwyd ar ran o diriogaeth hanesyddol Tibet ar ôl i Tsieina oresgyn y wlad yn y 1950au, yn cyfateb yn fras i diriogaeth y Ü-Tsang hynafol a gorllewin Kham.

Lleoliad rhanbarth traddodiadol Ü-Tsang ar fap sy'n dangos tiriogaeth hanesyddol Tibet ar fap cyfoes

Ffurfiwyd Ü-Tsang pan unwyd dwy ardal hanesyddol gynharach: Ü (Dbus) yng nghanolbarth Tibet, a reolwyd gan yr enwad Gelukpa (Dge-lugs-pa) (prif enwad Bwdhaeth Tibet) dan y Dalai Lamas cynnar, a Tsang (Gtsang) a ymestynnai o Gyantse (Rgyang-rtse) i gyfeiriad y gorllewin, dan reolaeth yr enwad Sakyapa (Sa-skya-pa).

Ar adegau, ymestynnai awdurdod rheolwyr Ü-Tsang dros deyrnasoedd Sikkim a Ladakh hefyd, ac mae dylanwad diwyllannol y rhanbarth ar y teyrnasoedd hanesyddol hynny yn sylweddol.

Ü-Tsang yw cadarnle diwyllianol y Tibetiaid. Rheolai'r Dalai Lamas Dibet o'r Potala a'r Norbulingka yn Lhasa, prif ganolfan y rhanbarth a phrifddinas Tibet ei hun: lleolir Teml Jokhang, un o'r rhai pwysicaf yn y wlad, yno hefyd. Tafodiaith Tibeteg Lhasa yw prif gyfrwng llenyddol y Dibeteg ddoe a heddiw ac mae'n lingua franca yn Ü-Tsang a gan y Tibetiaid alltud yn India heddiw.

Prif ganolfannau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato