Brwydr Pwll Melyn
Brwydr a ymladdwyd ar neu o gwmpas 5 Mai 1405 yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr oedd Brwydr Pwll Melyn.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 5 Mai 1405 |
Rhan o | gwrthryfel Owain Glyn Dŵr |
Lleoliad | Brynbuga |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ymladdwyd y frwydr ger bryn Pwll Melyn, gerllaw Brynbuga yn Sir Fynwy. Arweiniwyd y fyddin Gymreig gan un o 11 o feibion Owain, Gruffudd ab Owain Glyn Dŵr, a byddin Seisnig dan yr Arglwydd Grey o Codnor. Gorchfygwyd y Cymry, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor i Monkswood ac oddi yno i Dŵr Llundain ble y bu farw 6 mlynedd yn ddiweddarach. Lladdwyd hefyd brawd Owain, Tudur ap Gruffudd, John ap Hywel, abad Llantarnam a mil a hanner o filwyr Cymreig; bu hyn yn gnoc enfawr i ymgyrch y Cymru dros eu hannibyniaeth. Ildiodd 300 o ddynion i Grey, ond dienyddiwyd y rhan fwyaf ohonynt am eu trafferth, o flaen y castell.[1]
Ymladdwyd y frwydr, yn ôl yr hanesydd J. E. Lloyd[2] a sgwennai yn 1933, ar y tir i'r gogledd o Gastell Brynbuga: ar dir "Fferm y Castell" a Castle Oak Pond sef y 'Pwll Melyn" a roddodd ei enw i'r frwydr.[2] Nododd Lloyd, hefyd, y darganfuwyd nifer o ysgerbydau yn y pwll pan gafodd ei lanhau. Roedd dŵr y llyn yn frown-budur am flynyddoedd, efallai oherwydd y cyrff, a hyn a roddodd iddo'r enw "Melyn", gair yr oes i ddisgrifio'r lliw. Bellach mae'r pwll wedi lleihau oherwydd gwaith draenio. I'r gorllewin o'r pwll y safodd y fyddin Gymreig gan ymosod ar ochr ogleddol y castell.
Llyfryddiaeth
golygu- J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, Clarendon Press, 1931)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Battles and Campaigns from The Chronicle of Adam of Usk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-01. Cyrchwyd 2016-05-12.
- ↑ 2.0 2.1 J.E. Lloyd, "The Battle of Pwll Melyn", Archaeologia Cambrensis 88 (1933), tud. 347-8