Abertridwr, Caerffili
Pentref yng nghymuned Cwm Aber, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Abertridwr.[1][2] Saif 3 milltir i'r gogledd-orllwein o dref Caerffili.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5964°N 3.2681°W |
Cod OS | ST120893 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hefin David (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Evans (Llafur) |
- Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Abertridwr, Powys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Gwaith glo
golyguBu'n bentref glofaol gynt. Agorwyd Glofa Windsor yn 1898 gan y Windsor Colliery Co Ltd. Roedd siafftiau aer danddaear yn ei gysylltu â Glofa Senghennydd.
Ar 1 Mehefin, 1902, dymchwelodd platfform yn y pwll glo, gan fwrio naw o lowyr i 25 troedfedd o ddŵr yn y swmp. Llwyddodd tri o'r dynion i ddianc trwy afael ar ddarnau pren ond collodd y chwech arall eu bywydau.
Ym 1918 bu 1,923 o ddynion yn gweithio yn y pwll; erbyn 1945 roedd y nifer wedi syrthio i 850. Ym 1974 unwyd y glofa â glofa Nantgarw fel un uned, ond caewyd yr hen Lofa Windsor ym mis Mawrth 1975. Heddiw mae ystâd tai Ty'n y Parc ar y safle.
Enwogion
golygu- Peter Prendergast (1946–2007), arlunydd.
- John Roberts (‘Jack Rwsia’) (1899-1979), glöwr, cynghorydd ac aelod amlwg o'r Blaid Gomiwnyddol; gwirfoddolwr gyda'r Frigâd Ryngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "John Roberts ('Jack Rwsia')". Y Bywgraffiadur Cymreig. 2011-02-25. Cyrchwyd 2021-09-26.
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu