Nantgarw

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref yng nghymuned Ffynnon Taf, ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Nantgarw.[1][2] Saif ar lannau afon Taf ar ffordd yr A468. Ceir yma sinema a chanolfan bowlio 10 pin. Ceir campws Coleg Morgannwg yn y pentref. Gorwedd Castell Coch ger y pentref.

Nantgarw
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFfynnon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5646°N 3.267°W Edit this on Wikidata
Cod OSST122858 Edit this on Wikidata
Cod postCF15 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Mae'n adnabyddus am ei borslen, a gynhyrchwyd rhwng 1813–1814, ac yn nes ymlaen rhwng 1817–1820, yng Nghrochendy Nantgarw, a goffheir mewn amgueddfa leol. Yn ddiweddarach agorwyd pwll glo yn Nantgarw; fe'i caewyd yn 1982. Mae stad fasnachol Parc Nantgarw ar y safle rwan.

Campws Nantgarw Coleg Morgannwg
Pwll Glo Nantgarw yn 1962

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).[3][4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.