Elen Roger Jones

actores a aned yn 1908

Athrawes ac actores o Gymraes oedd Elen Roger Jones (27 Awst 190815 Ebrill 1999). Ganwyd yn ferch i William Griffith a Mary, ac yn chwaer i Thomas, Siarlot a’r actor byd-enwog Hugh Griffith, a enillodd Oscar am ei berfformiad yn Ben Hur. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Llanallgo ac yna Ysgol Sirol Llangefni, aeth i Goleg y Normal, Bangor i hyfforddi fel athrawes. Yn wir, er mai fel actores y mae hi’n adnabyddus i’r mwyafrif llethol, fel athrawes yr ystyriai Elen ei hun yn bennaf.

Elen Roger Jones
Ganwyd27 Awst 1908 Edit this on Wikidata
Marian-glas Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 1999 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Sir, Llangefni
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, athro Edit this on Wikidata

Yn 1938 priododd Gwilym Roger Jones, bancwr wrth ei alwedigaeth, ac fe aned dau o blant iddynt yn y blynyddoedd yn dilyn eu priodas, Meri Rhiannon a Wiliam Roger. Bu farw yn 90 mlwydd oed, ac mae ei bedd ym mynwent Eglwys Llaneugrad.[1] Wedi ei marwolaeth cyhoeddwyd portread ohoni yn y llyfr Elen Roger: Portread gan Harri Parri.

Actio golygu

Fel actores mewn dramâu radio, llwyfan a theledu, bu sefydliadau megis Theatr Fach Llangefni yn lleoliad hollbwysig iddi. Un o'r troeon cyntaf iddi actio yno oedd yn 1960, gan aros yn driw i'r sefydliad am ddeugain mlynedd, a pherfformio mewn dramâu megis Pryd o Ddail, Awel Gref a Cartref. Ddechrau'r saithdegau, cafodd gyfle i grwydro theatrau dros Gymru gyfan, wedi iddi gael gwahoddiad i actio yn rhai o gynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru.

Mewn rhaglen am Daniel Owen, gyda Wilbert Lloyd Roberts yn cynhyrchu, y cafodd ei rhan gyntaf ar y sgrin, rhan y byddai hi'n ei chwarae eto saith mlynedd yn ddiweddarach mewn cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru. Dros y ddeng mlynedd nesaf, ymddangosodd mewn cynyrchiadau fel Byd a Betws a'r Gwyliwr. Cafodd gydnabyddiaeth eang am ei pherfformiadau o waith Saunders Lewis, Dwy Briodas Ann ddiwedd 1973, a Merch Gwern Hywel yn 1976. Fel yr aeth heibio ei deg a thrigain, daeth yn wyneb mwy cyson ar y teledu, gan actio rhan Miss Brooks yn Joni Jones ac Ann Robaits, Heidden Sur yn Hufen a Moch Bach. Bu hefyd yn perfformio mewn dwy gyfres a ddaeth yn boblogaidd iawn ar S4C, sef Gwely a Brecwast a Minafon, addasiad o nofel Eigra Lewis Roberts, Mis o Fehefin, lle daeth Elen yn adnabyddus iawn fel y cymeriad ‘Hannah Haleliwia’.

Ond gallai Elen droi ei llaw at unrhyw genre o fyd y ddrama, ac yn 1983 cafodd chwarae rhan yr Arglwyddes Grey yn y ffilm Owain Glyndŵr ar S4C. Fe wnaeth hi hefyd actio mewn cyfresi Saesneg, gan gynnwys District Nurse, gyda'r actores Nerys Hughes. Cafodd ei disgrifio gan John Hefin Evans fel actores ‘1 take’. Un peth sydd yn gyffredin yn yr amrywiaeth o rolau iddi hi eu chwarae, oedd iddynt oll fod yn ferched cryf ac eofn iawn.

Diddordebau golygu

Un o’i diddordebau eraill oedd casglu gwisgoedd o wahanol gyfnodau, gan gynnwys gwisgoedd merched a dynion y cyfnod Fictoraidd, sioliau, a chlocsiau, ac fe ddefnyddiodd y rhain fel canolbwynt i sioeau neu sgyrsiau.

Ni chafodd ei hamryw gyfraniadau eu hanwybyddu. Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979, fe dderbyniwyd Elen yn aelod o'r Orsedd a'i hanrhydeddu â'r wisg wen, a phan ddaeth yr Eisteddfod i Fôn yn 1983, fe'i cyflwynwyd â Thlws Garmon a'i chydnabod fel Actores Orau'r flwyddyn. Bu crefydd yn ddylanwad diysgog ar hyd ei hoes, ac am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul fe ddyfarnwyd y Fedal Gee iddi.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Parri, Harri (2000). Elen Roger Jones. Aberystwyth: Gwasg Pantycelyn. ISBN 978-1903314098.
  2. Jones, Gwen Saunders (2018). "Elen Roger Jones". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22/08/2018. Check date values in: |access-date= (help)