Aderyn drycin du
Aderyn drycin du Puffinus griseus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Procellariformes |
Teulu: | Pedrynnod |
Genws: | Ardenna[*] |
Rhywogaeth: | Ardenna grisea |
Enw deuenwol | |
Ardenna grisea
| |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Aderyn drycin du (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar drycin duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Puffinus griseus; yr enw Saesneg arno yw Sooty shearwater. Mae'n perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Procellariidae) sydd yn urdd y Procellariformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. griseus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Ewrop, Affrica ac Awstralia.
Mae tua 40–51 cm o hyd a 94–19 cm ar draws yr adenydd. Nid yw'n hollol ddu o ran lliw, ond mae'n dywyllach na'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau eraill o aderyn-drycin. Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhan ddeheuol y Cefnfor Tawel, yn arbennig o gwmpas Seland Newydd, Ynysoedd y Falkland a Tierra del Fuego. Wedi gorffen magu'r cywion, mae'r adar yn symud tua'r gogledd, ar hyd ochr orllewinol y Cefnfor Tawel a Chefnfor Iwerydd. Wedi cyrraedd cyn belled a'r Arctig, maent yn troi tua'r dwyrain ac yna tua'r de, gan ddychwelyd i'r ynysoedd lle maent yn nythu wedi gwneud cylchdaith enfawr.
Gellir gweld ambell un oddi ar arfordir Cynru yn yr hydref, er nad yw'n aderyn cyffredin yma.
Fe'i ceir yn aml ar lan y môr.
Teulu
golyguMae'r aderyn drycin du yn perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Procellariidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Pedryn Cynffon-fforchog | Oceanodroma leucorhoa | |
Pedryn Wilson | Oceanites oceanicus | |
Pedryn drycin | Hydrobates pelagicus | |
Pedryn drycin Elliot | Oceanites gracilis | |
Pedryn drycin Matsudaira | Oceanodroma matsudairae | |
Pedryn drycin cefnllwyd | Garrodia nereis | |
Pedryn drycin gyddfwyn | Nesofregetta fuliginosa | |
Pedryn drycin tywyll | Oceanodroma markhami | |
Pedryn drycin wynebwyn | Pelagodroma marina |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.