Adnodd adnewyddadwy

(Ailgyfeiriad o Adnewyddadwy)

Adnodd nad ydyw'n lleihau pan fod dyn yn ei ddefnyddio yw adnodd adnewyddadwy ('renewable resources'). Gall hyn olygu popeth y gellir ei hailgylchu, neu adnoddau parhaol megis gwynt neu'r haul. Defnyddir y gair yng nghyd-destyn cynaladwyedd y ddaear gyfan.

Adnodd adnewyddadwy
Mathadnodd naturiol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebAdnodd anadnewyddadwy Edit this on Wikidata
Rhan oamgylchedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Byd Bregus
Cynhesu Byd Eang

Amgylchedd
Adnewyddadwy
Anadnewyddadwy
Asesiad Amgylcheddol
Cylchred carbon
Cynhesu byd eang
Cytundeb Kyoto
Eco-sgolion
Haen osôn
Panel solar
Tanwydd ffosil
Ynni adnewyddol
Ynni cynaladwy


Categori

Tyrbeini gwynt

Mae adnoddau adnewyddadwy yn cynnwys:-

Mae deunyddiau adnewyddadwy yn cynnwys pren, dŵr, awyr, cŵyr, papur, cardbwrdd a lledr. Dadleua rhai nad yw pren caled yn adnewyddadwy oherwydd yr amser hir mae'n ei gymryd i dyfu'r coeden. Ac mae'n rhaid cofio fod angen ynni i gludo deunyddiau ac i drin adnoddau fel dŵr. Er hynny, mae'n bosib dinistrio'r cydbwysedd naturiol trwy gor-ddefnyddio adnoddau. Mae'n rhaid rheoli ei'n defnydd o adnoddau adnewyddadwy megis ynni geothermol, dŵr croyw, pren a biomas fel nad ydym yn gorweithio'r amgylchedd ac er mwyn iddynt gael amser i adnewyddu eu hunain.

Deunyddiau adnewyddadwy golygu

Nid yw deunyddiau wedi eu gwneud o danwydd ffosil yn adnewyddadwy gan y byddant, ryw dro, yn dod i ben. Mae'n bosib ailgylchu dur, alwminiwm neu gopr o wastraff metel, ond mae ailgylchu alwminiwm yn defnyddio llawer o ynni ac fel arfer y tanwydd ffosil neu ynni atomig sy'n pweru'r ailgylchu.

Mae'n bosib torri polimer i lawr i fonomerau mewn labordy, ond ar hyn o bryd nid yw ailgylchu plastig yn economaidd achos fod olew crai yn rhatach na monomerau wedi ei thorri i lawr a'u golchi. Mae'n hefyd yn bosib cynhyrchu petrol o olew planhigion fel olew had rêp. Gelwir hynny'n bio-fuel.

Ynni adnewyddadwy golygu

 
Ynni solar yn Sbaen. Gorsaf bwer 11 MW.

Ynni Atomig golygu

Ceir cryn ddadlau ynglŷn y cwestiwn a yw ynni atomig yn adnewyddadwy neu beidio. Ar y naill law mae hi'n bosib ailgylchu'r tanwydd, ond ar y llaw arall mae gwastraff atomig yn beryglus iawn ac mae mwyngloddio am wraniwm hefyd yn beryglus oherwydd yr ymbelydredd.

Ynni Solar golygu

Prif: Ynni solar

Ynni solar yw'r pelydrau gwres a golau sy'n dod o'r haul. Mae pobl wedi bod yn defnyddio'e ynni yma ers amser hynafol gan defnyddio technolegau esblygiadol. Daw ynni solar o'r haul, a cheir mwy o'r ynni hwn nag unrhyw fath arall. Mae'r diwydiant hwn hefyd yn tyfu'n gynt nag unrhyw ddiwydiant cynaeafu ynni arall: 50% yn fwy pob blwyddyn, yn enwedig cynaeafu trydan drwy PV (celloedd 'photovoltaic'). Tywyna'r haul 10,000 mwy o ynni nac yr ydym ei angen.

Ynni Gwynt golygu

Prif: Ynni gwynt

Pwer gwynt yw'r trawsnewidiad ynni gwynt mewn i ffurf defnyddiol megis trydan neu egni cinetig. Mae ynni gwynt yn deillio o'r ffaith fod rhai rhannau o'r blaned yn poethi fwy na rhannau eraill a bod canol y blaned yn boeth. Drwy i llafnau'r melinau gwynt droi tyrbein, trosglwyddir y symudiad hwn yn gerrynt trydanol.

Ynni Dŵr golygu

Prif: Ynni dŵr

Pwer hydro, pwer hydrolig neu ynni dŵr yw'r pwer sy'n deilliadol o rym symudiad dwr sy'n cael ei defnyddio i greu egni mwy defnyddiol. Mae symudiad dŵr hefyd yn medru troi tyrbein a chreu trydan, boed y llif naill ai mewn moroedd, afonydd neu lynnoedd. Gelwir hyn yn ynni hydro neu ynni dŵr.

Ynni Geothermol golygu

Pwer gwres a storwyd yn y ddaear yw egni geothermol. Drwy ddefnyddio technoleg tebyg iawn i'r oeriadur, mae ynni geothermol hefyd yn creu gwres. Mae dau fath gwahanol: pibellau tua can metr o hyd un fetr o dan wyneb y ddaear (lle mae'r tymheredd yn gyson 10 - 14 gradd canradd yn gwagio eu hynni drwy cyfnewidydd gwres i system gwres canol y ty. Neu'n ail, pibellau hirion fertig sy'n manteisio ar wres uchel canol y ddaear. Mae Ynys yr Iâ wedi bod yn defnyddio'r math hwn o drydan ers blynyddoedd.

Ynni Biomas golygu

Egni o blangigion yw hyn. Gallwn ddistyllu alcohol allan o gorn melys neu siwgwr - i droi peiriannau neu i symud cerbydau. Ystyrir hyn yn ddull adnewyddadwy gan y gellir tyfu ychwaneg o'r planhigion o fewn dim.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu