Æthelfrith o Northumbria

Brenin Brynaich a Deifr oedd Æthelfrith (bu farw tua 616). Teyrnasodd ym Mrynaich (Bernicia) o tua 593 hyd tua 616; ef hefyd, o tua 604 ymlaen, oedd y brenin cyntaf o Frynaich i reoli teyrnas Deifr (Deira), i'r de o Frynaich. Gan mai Deifr a Brynaich oedd y ddwy uned sylfaenol yn yr hyn a ddaeth yn Northumbria yn ddiweddarach, ystyrir Æthelfrith yn frenin cyntaf - de facto - teyrnas Northumbria gan haneswyr. Enillodd sawl brwydr yn erbyn Brythoniaid yr Hen Ogledd, a Gwynedd a Phowys, a chafodd fuddugoliaeth bwysig dros Gael Dál Riata. Er iddo gael ei orchyfygu a'i ladd mewn brwydr ac i'w orsedd gael ei chipio gan un o'i elynion, adferwyd ei linach yn y 630au.

Æthelfrith o Northumbria
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Bu farwc. 616 Edit this on Wikidata
Afon Idle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrynaich Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Northumbria, brenin Brynaich, brenin Deifr Edit this on Wikidata
TadÆthelric Edit this on Wikidata
PriodAcha of Deira, Bebba Edit this on Wikidata
PlantEanfrith of Bernicia, Oswallt, Oswy, Æbbe of Coldingham, Oslac (?), Oswudu (?), Oslaf (?), Offa (?) Edit this on Wikidata
LlinachLeodwaldings Edit this on Wikidata

Roedd Æthelfrith yn fab i Æthelric ac felly'n ŵyr i Ida, ac ymddangos iddo olynu Hussa fel brenin Brynaich yn 592 neu 593. Mae'n bosibl mai ef oedd arweinydd gwŷr Brynaich ym Mrwydr Catraeth (tua 600) lle cawsant fuddugoliaeth dros wŷr Gododdin, y coffeir eu tranc yn y gerdd arwrol Y Gododdin, gan Aneirin.

Rhwng 613 a 616, ymosododd Æthelfrith ar deyrnas Powys ac enillodd Frwydr Caer; lladdwyd Selyf ap Cynan, brenin Powys yno. Ymsododd ar fynachod clas Brythonig Bangor Is Coed hefyd, a oedd wedi ymgynull i weddïo dros fuddugoliaeth i'r Cymry, yn ôl yr hanesydd Eingl-Sacsonaidd Beda, ac eraill. Dywedir fod 1200 wedi eu lladd gan filwyr Æthelfrith ac mae dim ond 50 a ddihangodd. Ystyrir y frwydr hon fel un dyngedfennol yn hanes Cymru, Lloegr a Phrydain, a wahanodd Brythoniaid Cymru oddi ar eu cymdogion yn yr Hen Ogledd.


Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.