Afon Clywedog (Clwyd)
afon yng Nghymru
Afon yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Afon Clywedog sy'n llifo i Afon Clwyd ger Dinbych.
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.174752°N 3.363612°W ![]() |
Aber | Afon Clwyd ![]() |
![]() | |
Ceir ei tharddle ar yr ucheldir ychydig i'r dwyrain o Lyn Brenig, yn rhan ogleddol Fforest Clocaenog, lle mae nifer o nentydd yn llifo i mewn i Gronfa Clywedog. Llifa tua'r dwyrain, ac mae Afon Concwest yn ymuno â hi ychydig cyn cyrraedd pentref Cyffylliog, lle mae Afon Corris yn ymuno. Aiff ymlaen tua'r dwyrain i lifo trwy Bontuchel, yna troi tua'r gogledd trwy Rhewl ac heibio Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, cyn cyrraedd Afon Clwyd ychydig i'r de-ddwyrain o dref Dinbych.
Mae Tramwy'r Arglwyddes Bagot ar lan orllewinol yr afon yn ymyl Rhewl.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/6/68/ClywedogClwyd01LB.jpg/260px-ClywedogClwyd01LB.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d8/Afon_Clywedog_-_geograph.org.uk_-_136282.jpg/260px-Afon_Clywedog_-_geograph.org.uk_-_136282.jpg)