Bontuchel

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref yn Sir Ddinbych yw Bontuchel("Cymorth – Sain" ynganiad ) (cyfeiriad grid SJ083577). Saif ar y ffordd gefn rhwng tref Rhuthun a phentref Cyffylliog, rhyw ddwy filltir i'r gorllewin o Ruthun a 112.8 milltir (181.6 km) o Gaerdydd a 176.1 milltir (283.3 km) o Lundain.

Bontuchel
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych, Cyffylliog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ084577 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Daw'r enw o'r bont uchel dros Afon Clywedog, sydd yn llifo heibio'r pentref.

Ar un adeg roedd yno dafarn, y Bridge, a siop, ond mae'r rhain wedi cau bellach.

Cynrychiolir Bontuchel yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato