Ahasferws

(Ailgyfeiriad o Ahasferus)

Mae'r enw Ahasferws (Groeg: Ξέρξης|, Xerxes; Hen Bersieg: Xšayārša; Hebraeg: ʼĂḥašwērôš; Groeg: Ασουηρος mewn Septuagint; neu Lladin: Assuerus mewn Vulgate; a ysgrifennir yn aml fel Achashverosh) yn enw a geir yn yr ysgrythurau Hebraeg i dri arweinydd gwlad. Ym Mabilon, ceir cyfeiriad hefyd at frenin o'r enw yma yn Llyfr y Tobit.

Ahasuerus a Haman yng ngwledd Esther, gan Rembrandt
Esther o flaen Ahasuerus ei gŵr; gwaith olew gan Artemisia Gentileschi

Llyfr Esther golygu

Brenin Persia oedd yr Ahasferws y sonir amdano yn nrama Saunders Lewis Esther (drama).[1] Cred rhai ers y 19g mai hwn yw Xerxes I o Bersia.[2] Edrydd fersiwn Groeg o Lyfr Esther mai ef yw Artaxerxes, a dywed yr hanesydd Josephus mai dyma'r enw a ddefnyddia'r Groegwyr amdano.[3] Dywed y Vulgate, y Midrash o Esther Rabba, I, 3 a Josippon mai'r Brenin Artaxerxes ydyw. Credodd John of Effesws a Bar-Hebraeus mai Artaxerxes II o Bersia ydoedd, felly ceir cryn anghytundeb ymhlith haneswyr pwy yn union oedd yr hwn y sonir amdano yn Llyfr Esther.

Etymoleg golygu

Tarddiad y gair Ahasferus (a'r Groeg Xerxes) yw'r hen Berseg Xšayārša. Yn draddodiadol, ni ddefnyddiwyd y sillafiad "Xerxes" mewn beiblau Cymraeg na Saesneg.[4] Ond ceir nifer o feiblau modern (Saesneg) sy'n ei ddefnyddio [5] yn hytrach nag "Ahasuerus".

Daw'r gair Xerxes o'r gair Groeg Ξέρξης. Lladineiddiwyd y gair Hebraeg Akhashverosh (אחשורוש) a oedd yn ei dro'n tarddu o'r gair Babilonaidd Achshiyarshu, a ddeilliodd o'r Hen Bersieg Xšayāršā.[6]

Dolennau allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. Nodyn:Bibleref
  2. The Religious Policy of Xerxes and the "Book of Esther", Littman, Robert J., The Jewish Quarterly Review, 65.3, January 1975, p.145-148.
  3. Ahasuerus at the JewishEncyclopedia.com
  4. Ni ddefnyddir y gair "Xerxes" yn y canlynol: KJV, New American Standard Bible, Amplified Bible, English Standard Version, 21st Century King James Version, American Standard Version, Young's Literal Translation, Darby Translation, Holman Christian Standard Bible, ayb.
  5. NIV, The Message, NLT, CEV, NCV, NIRV, TNIV, etc.
  6. Nichol, F.D., Seventh-day Adventist Bible Commentary, Volume 3, Review and Herald Publishing Association, (Washington, D.C., 1954 edition), p.459, "Historical Setting"