Esther (drama)

drama gan Saunders Lewis

Drama gan Saunders Lewis ydy Esther a gyhoeddwyd gyntaf yn 1960.[1] Comisiynwyd Esther yn wreiddiol gan y BBC fel drama radio ym 1958 ac fe'i llwyfannwyd am y tro cyntaf mewn gŵyl drama flynyddol yn Llangefni.[2] Seiliodd Saunders Lewis ei ddrama ar hanes yr Iddewes, Esther, a geir yn y Beibl - stori llawn hunan aberth a chynllwyn. Roedd Esther (enw sy'n golygu seren neu hapusrwydd, yn yr Hebraeg) yn wraig i Ahasferus, Brenin Persia rhwng 485-465 CC ac yn Iddewes.

Esther
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrDinefwr Press, Llandybïe
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiCyhoeddiad cyntaf: 1960
Argraffiad diweddaraf: Gorffennaf 2000
ISBN9780715406465
Tudalennau102 Edit this on Wikidata
GenreDrama

Addaswyd y ddrama ar gyfer plant a phobol ifanc gan CBAC yn 2000, yn un o dair drama Saunders Lewis.[3]

Cymeriadau

golygu
  • Y Frenhines Esther
  • Y Brenin Ahasferus - Brenin Persia
  • Haman - y Prif Weinidog
  • Harbona - Swyddog yn y Palas
  • Mordecai - Cefnder y Frenhines

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1950au

golygu

Cynhyrchiad o'r ddrama radio ar gyfer BBC Cymru.

1960au

golygu

Cynhyrchiad John Gwilym Jones.

1970au

golygu
 
Rhaglen y cynhyrchiad o Esther 1979

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ym 1979. Cyfarwyddwr David Lyn; cynllunydd Martin Morley; rheolwr llwyfan Iestyn Garlick; dirprwy reolwr Elinor Roberts; cynorthwywr Julia Jones; goleuo a sain Gareth Jones; cynorthwyr Siôn Havard Gregory; gwisgoedd Gwyneth Roberts a Janice Dickson; prif saer: Glyn Richards; cast:

 
Llun o gast cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Esther 1979

"Penderfyniad David oedd i ni fod yn Iddewon yn per[ff]ormio'r ddrama ar ŵyl y 'Purum'," yn ôl Maureen Rhys yn ei hunangofiant, "pryd mae'r Iddewon yn dathlu bod y Frenhines Esther wedi eu hachub nhw fel cenedl. Esther wahanol oeddwn i ar y llwyfan i'r llun ohona i ar y poster. Dillad carpiog oedd ganddon ni i gyd, ac actorion dan hyfforddiant y Cwmni yn cymryd rhan fel y cyd-garcharorion. Fe wnaeth David y cynhyrchiad yn un ensemble lle'r oedd pawb yn cyfrif. Doeddwn i ddim yn teimlo mod i'n chwarae'r brif ran, dim ond yn un o dîm," ychwangodd.[4]

2000au

golygu
 
Llun cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther 2006

Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2006, pan oedd y cwmni o dan oruchwyliaeth Cefin Roberts. Dewiswyd Daniel Evans i gyfarwyddo'r cynhyrchiad, yr ail gynhyrchiad iddo'i gyfarwyddo'n broffesiynol.[5] Cynllunydd Guto Humphreys; cerddoriaeth Dyfan Jones; cast:

Derbyniodd y cynhyrchiad adolygiadau ffafriol iawn yn y Wasg. Dyma oedd gan Paul Griffiths i'w ddweud yn Y Cymro: "Mae Gŵyl y Purim yn ddiwrnod pwysig i’r Iddewon. Dyma’r dydd maen nhw’n diolch am ddewrder y Frenhines Esther am achub eu hil. Mi fydda innau’n fythol ddiolchgar am yr unfed-ar-hugain o Ebrill 2006, oherwydd dyma pryd y bu i Daniel Evans adfer fy ffydd innau yn y Ddrama Gymraeg! [...] Heb egwyl rhwng bob Act, fe blethwyd y cyfan yn fedrus a theatrig a hynny gyda graen brofiadol."[5]

"Ar ddechrau eu Tymor o Glasuron, mae'n braf cael datgan yn hyderus fod y Theatr Genedlaethol wedi dod i'w hoed," oedd barn Eifion Lloyd Jones ar wefan BBC Cymru; "Dyma gynhyrchiad teilwng a chaboledig, gyda sawl perfformiad nodedig ac un cwbl arbennig [...] Heb amheuaeth, Rhys Parry Jones oedd brenin y cynhyrchiad [...] 'Fedra'i ddim cofio gweld Rhys mewn cynhyrchiad llwyfan safonol o'r fath o'r blaen. A 'fedra'i ddim cofio gweld unrhyw actor yn rhagori ar ei berfformiad yma mewn unrhyw ddrama arall, ychwaith."[6]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y BBC
  2. "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-04.
  3. Ynys Môn
  4. Rhys, Maureen (2006). Prifio - hunangofiant Maureen Rhys. Gomer. ISBN 1 84323 762 8.
  5. 5.0 5.1 "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-04.
  6. "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-04.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.