Ahasferws
Mae'r enw Ahasferws (Groeg: Ξέρξης|, Xerxes; Hen Bersieg: Xšayārša; Hebraeg: ʼĂḥašwērôš; Groeg: Ασουηρος mewn Septuagint; neu Lladin: Assuerus mewn Vulgate; a ysgrifennir yn aml fel Achashverosh) yn enw a geir yn yr ysgrythurau Hebraeg i dri arweinydd gwlad. Ym Mabilon, ceir cyfeiriad hefyd at frenin o'r enw yma yn Llyfr y Tobit.
Ahasferws | |
---|---|
Ganwyd | Yr Ymerodraeth Achaemenaidd |
Man preswyl | Susa |
Priod | Vashti, Esther |
Llyfr Esther
golyguBrenin Persia oedd yr Ahasferws y sonir amdano yn nrama Saunders Lewis Esther (drama).[1] Cred rhai ers y 19g mai hwn yw Xerxes I o Bersia.[2] Edrydd fersiwn Groeg o Lyfr Esther mai ef yw Artaxerxes, a dywed yr hanesydd Josephus mai dyma'r enw a ddefnyddia'r Groegwyr amdano.[3] Dywed y Vulgate, y Midrash o Esther Rabba, I, 3 a Josippon mai'r Brenin Artaxerxes ydyw. Credodd John of Effesws a Bar-Hebraeus mai Artaxerxes II o Bersia ydoedd, felly ceir cryn anghytundeb ymhlith haneswyr pwy yn union oedd yr hwn y sonir amdano yn Llyfr Esther.
Etymoleg
golyguTarddiad y gair Ahasferus (a'r Groeg Xerxes) yw'r hen Berseg Xšayārša. Yn draddodiadol, ni ddefnyddiwyd y sillafiad "Xerxes" mewn beiblau Cymraeg na Saesneg.[4] Ond ceir nifer o feiblau modern (Saesneg) sy'n ei ddefnyddio [5] yn hytrach nag "Ahasuerus".
Daw'r gair Xerxes o'r gair Groeg Ξέρξης. Lladineiddiwyd y gair Hebraeg Akhashverosh (אחשורוש) a oedd yn ei dro'n tarddu o'r gair Babilonaidd Achshiyarshu, a ddeilliodd o'r Hen Bersieg Xšayāršā.[6]
Dolenni allanol
golygu- The Wandering Jew Archifwyd 2006-09-17 yn y Peiriant Wayback Curious Myths of the Middle Ages gan Sabine Baring-Gould, M.A.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nodyn:Bibleref
- ↑ The Religious Policy of Xerxes and the "Book of Esther", Littman, Robert J., The Jewish Quarterly Review, 65.3, January 1975, p.145-148.
- ↑ Ahasuerus at the JewishEncyclopedia.com
- ↑ Ni ddefnyddir y gair "Xerxes" yn y canlynol: KJV, New American Standard Bible, Amplified Bible, English Standard Version, 21st Century King James Version, American Standard Version, Young's Literal Translation, Darby Translation, Holman Christian Standard Bible, ayb.
- ↑ NIV, The Message, NLT, CEV, NCV, NIRV, TNIV, etc.
- ↑ Nichol, F.D., Seventh-day Adventist Bible Commentary, Volume 3, Review and Herald Publishing Association, (Washington, D.C., 1954 edition), p.459, "Historical Setting"