Papur newydd Arabeg pan-Arabaidd a gyhoeddir yn Llundain ers 1989 yw Al-Quds Al-Arabi (Arabeg: القدس العربی‎), sef "Jeriwsalem (Al-Quds) Arabaidd"). Mae'r papur yn perthyn i Balesteiniaid alltud, ac fe'i golygir gan Abd al-Bari Atwan a aned mewn gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd yn Llain Gaza yn 1950.

Al-Quds Al-Arabi
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithArabeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1989 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlundain Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.alquds.co.uk Edit this on Wikidata

Mae safbwynt golygyddol y papur pan-Arabaidd hwn yn feirniadol iawn o'r rhan fwyaf o'r llywodraethau Arabaidd am eu bod "yn dilyn gorchmynion yr Unol Daleithiau ac Israel", ac mewn canlyniad mae'r papur wedi cael ei sensrio neu ei wahardd o bryd i'w gilydd yn yr Aifft, Gwlad Iorddonen, Sawdi Arabia, a Syria. Mae ganddo gylchrediad o 50,000, ond gellid dadlau fod ei ddylanwad yn uwch yng nghylchoedd deallusol y Byd Arabaidd, yn enwedig yn y Dwyrain Canol, nag y mae'r ffigwr hynny yn awgrymu.

Mae'r apapur yn aelod o'r Arab Press Network, rhwydwaith sy'n hyrwyddo gwasg gryf annibynnol yn y byd Arabaidd.

Dolen allanol golygu