Alan Bates (is-bostfeistr)

Mae Alan Bates (ganwyd tua 1954)[1] yn gyn is-bostfeistr. Fe'i penodwyd yn is-bostfeistr yng Nghraig-y-Don, Llandudno ym mis Mawrth 1998. Daeth ei gytundeb i ben yn 2003 ac aeth ymlaen i ymgyrchu ar ran cannoedd o is-bostfeistri eraill a gollodd eu swyddi yn yr hyn a alwyd yn sgandal Swyddfa'r Post Prydeinig.

Alan Bates
GanwydLerpwl Edit this on Wikidata
Man preswylLlandudno Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpostfeistr, rheolwr prosiect Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Dewi Sant Edit this on Wikidata

Sgandal Swyddfa'r Post golygu

Wrth dystio yn yr ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal yn 2024, disgrifiodd Bates derfyniad ei gontract ei hun yn 2003 a’r digwyddiadau a arweiniodd at ei ymgyrch ar ran is-bostfeistri. Dechreuodd ei brofiad dri mis yn unig ar ôl i system gyfrifo a man-werthu Horizon gael ei gosod yn ei gangen, pan ddaeth diffyg o £6,000 i’r amlwg. Dywedodd ei fod wedi cwyno dro ar ôl tro wrth reolwyr Swyddfa’r Post fod system gyfrifo Horizon yn annibynadwy, am nad oedd ei gyfleusterau adrodd yn caniatáu olrhain digwyddiadau y tu ôl i ddiffygion. Dywedodd nad oedd yn deg bod yn rhaid i weithredwyr wneud iawn am y diffygion a achoswyd gan y meddalwedd.[2] Dros gyfnod o ddwy flynedd gwnaeth ef a’i staff 507 o alwadau i linell gymorth Swyddfa’r Post, ac roedd 85 ohonynt yn ymwneud â Horizon.[3] Daeth ei gontract i ben heb unrhyw reswm wedi’i roi iddo, ym mis Tachwedd 2003. Er na chafodd ei erlyn, collodd £65,000 yr oedd wedi'i fuddsoddi yn y busnes.[4]

Dangosodd cyfreithwyr yn yr ymchwiliad ddogfennau mewnol i Bates oedd yn dweud bod ei derfyniad wedi'i wneud am ei fod yn "anhylaw". Cyfeiriwyd ato yn nogfennau Swyddfa'r Post fel rhywun oedd yn "cael trafferth gyda chadw cyfrifon". Mewn ymateb, dywedodd: "Penderfynon nhw eu bod am gwneud gwers ohonaf." Dywedodd fod ei benderfyniad i ddarganfod y diffygion yn Horizon oherwydd "styfnigrwydd" ac ymdeimlad o anghyfiawnder ar ôl dysgu bod cannoedd o is-bostfeistri eraill wedi colli eu swyddi ac wedi cael eu herlyn.[5]

Dywed Bates ei fod ef a'i wraig Suzanne yn fwy ffodus na llawer o'r is-bostfeistri eraill. Dwedodd ef:

Even though the post office was taken away, we still had the retail side of our business, which we ran for a few years… We were fortunate enough to come out with enough to buy outright a small property for ourselves… We both had basic jobs and also I went back to college to [study] more on computer sciences and stuff of that sort, which was very useful going forward. It did help once we started to get into court and on the technical aspects of all of this.

Ar ôl i'w gontract ddod i ben, sefydlodd wefan i dynnu sylw at ei bryderon, cysylltodd â newyddiadurwyr a chasglodd is-bostfeistri eraill ynghyd i ffurfio grŵp Cynghrair Cyfiawnder i'r Is-bostfeistri (JFSA). Mae wedi ymgyrchu ers dros 20 mlynedd i ddod at y gwir am y diffygion ym meddalwedd Horizon, a’r celu gan reolwyr Swyddfa’r Post a oedd yn gwybod bod y system yn ddiffygiol ond a barhaodd i erlyn cannoedd o is-bostfeistri; ac i sicrhau bod yr is-bostfeistri yr effeithir arnynt yn cael eu digolledu'n briodol.[6][7]

Yn ei dystiolaeth ei hun i'r Ymchwiliad, dywedodd yr Arglwydd Arbuthnot, a oedd fel AS hefyd wedi ymgyrchu ar ran is-bostfeistri, "Yr unigolyn a dorrodd drwy'r rhwystrau oedd Alan Bates. Mae'n ddyn rhyfeddol."[8]

Cefndir personol golygu

Ganed Bates yn Lerpwl, ac astudiodd ddylunio graffeg yn Wrecsam, ac mae wedi byw yn Newcastle, Caerdydd a Chaerwysg, gan weithio ym maes rheoli prosiectau.[9] Dywedodd yn gynnar yn 2024 ei fod wedi gwrthod derbyn anrhydedd Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) am ei ymgyrchu, oherwydd bod Paula Vennells, cyn Brif Swyddog Gweithredol Swyddfa’r Post Cyfyngedig, yn dal i fod yn berchen ar CBE.[a][11] Dramateiddiwyd ymgyrch Bates yn y gyfres deledu Mr Bates vs The Post Office yn 2024, lle chwaraewyd ef gan Toby Jones.[12]

Yn 2024 gwrthododd Bates gynnig iawndal cychwynnol gan y llywodraeth, gan gyfeirio at y cynnig fel un 'gwarthus'.[13]

Ar 11 Ebrill 2024, derbyniodd Wobr Arbennig y Prif Weinidog yng Ngwobrau Dewi Sant am arwain yr ymgyrch i ddatgelu sgandal Swyddfa'r Post.[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. Davison, Tamara (10 Ionawr 2024). "Who is Alan Bates? The former subpostmaster who unearthed the Post Office scandal". The Standard. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2024. Cyrchwyd 11 Ionawr 2024.
  2. Alan Bates tells Post Office inquiry ministers tried to sabotage his claim. The Guardian, 9 Ebrill 2024
  3. Alan Bates says Post Office was run by 'thugs in suits', BBC, 10 Ebrill, 2024
  4. The real Alan Bates tells his story, RNZ 7 Ebrill 2024
  5. Alan Bates tells Post Office inquiry ministers tried to sabotage his claim. The Guardian, 9 Ebrill 2024
  6. Flinders, Karl (31 Ionawr 2020). "Alan Bates: The 'details man' the Post Office paid the price for ignoring". ComputerWeekly.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2021. Cyrchwyd 23 Mehefin 2021.
  7. Glick, Bryan (11 Rhagfyr 2019). "Vilified then vindicated – victory for subpostmasters in Post Office trial shows risk of tech hubris – Computer Weekly Editor's Blog". ComputerWeekly.com. TechTarget. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ionawr 2020. Cyrchwyd 9 Chwefror 2020.
  8. Sigsworth, Tim; Parker, Fiona (10 Ebrill 2024). "Post Office inquiry live: Labour government said Horizon concerns were 'nothing to do with them'". The Telegraph. Cyrchwyd 10 Ebrill 2024.
  9. Gatens, Katie (12 Ionawr 2024). "Meet the real Alan Bates who took on the Post Office and won". The Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ionawr 2024. Cyrchwyd 12 Ionawr 2024.
  10. "King strips CBE from former Post Office boss Paula Vennells". The Guardian. PA Media. 2024-02-23. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-02-25.
  11. Patrick, Holly (2 Ionawr 2024). "Real-life Mr Bates reveals why he turned down OBE for Post Office campaigning". Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2024. Cyrchwyd 12 Ionawr 2024.
  12. "'You can't believe it's true' - Will Mellor on the frightening real-life story behind Mr Bates vs the Post Office". Virgin Radio. 1 Rhagfyr 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
  13. Parker, Fiona (2024-01-31). "Alan Bates rejects 'derisory' payout over Post Office scandal". The Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mawrth 2024. Cyrchwyd 2024-02-01.
  14. "Bachgen dewr yn ei arddegau o Gymru a achubodd fywyd rhywun arall ymhlith enillwyr 'gwirioneddol ysbrydoledig' Gwobrau Dewi Sant 2024 | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2024-04-11. Cyrchwyd 2024-04-12.

Nodiadau golygu

  1. Tynnwyd y CBE oddi ar Vennels yn Chwefror 2024.[10]