Alarch Bewick
Alarch Bewick | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Genws: | Cygnus |
Rhywogaeth: | C. columbianus |
Isrywogaeth: | C. c. bewickii |
Enw trienwol | |
Cygnus columbianus bewickii Yarrell, 1830 | |
Cyfystyron | |
Cygnus bewickii |
Mae Alarch Bewick (Cygnus columbianus bewickii neu Cygnus bewickii) yn aelod o'r teulu Anatidae (elyrch, gwyddau a hwyaid). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a rhannau gorllewinol o Asia. Cafodd ei enwi ar ôl yr arlunydd Thomas Bewick.
Alarch Bewick yw'r lleiaf o'r tri alarch sy'n nythu yn Ewrop, yn mesur 115–127 cm a 170–195 cm ar draws yr adenydd. Mae'n edrych yn debyg i Alarch y Gogledd, ond mae'n llai a'i wddf yn fyrrach. Fel Alarch y Gogledd, mae patrwm o ddu a melyn ar y pig, ond mae mwy o ddu nag o felyn ar big Alarch Bewick, tra mae Alarch y Gogledd yn dangos mwy o felyn nag o ddu.
Mae yn nythu yn yr Arctig ar draws gogledd Rwsia, ar wlyptiroedd. Mae'r elyrch yma yn paru am oes. Yn y gaeaf mae'r adar sy'n nythu yn y gorllewin yn symud tua'r de a'r gorllewin i aeafu yn yr Iseldiroedd a Phrydain. Mae'r adar sy'n nythu yn y dwyrain yn gaeafu yn Japan a Tsieina.
Nid yw Alarch Bewick yn nythu yng Nghymru, a nifer fechan sy'n gaeafu yma fel rheol. Weithiau gellir gweld rhai ymysg heidiau o Alarch y Gogledd.
Enwau yn yr ieithoedd Celtaidd
golyguDyma enw'r aderyn hwn mewn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill: