Alarch y Gogledd
rhywogaeth o adar
Alarch y Gogledd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Genws: | Cygnus |
Rhywogaeth: | C. cygnus |
Enw deuenwol | |
Cygnus cygnus (Linnaeus, 1758) |
Mae Alarch y Gogledd (Cygnus cygnus) yn aelod o'r teulu Anatidae (yr elyrch, gwyddau a hwyaid). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a rhannau gorllewinol o Asia.
Mae'n debyg iawn i Alarch Bewick, ond mae dipyn yn fwy, 140–160 cm o hyd a 205–235 cm ar draws yr adenydd. Mae'r darn melyn ar y pig yn fwy na'r darn melyn ar big Alarch Bewick, ac yn diweddu mewn pwynt.
Maent yn magu mewn tiroedd gwlyb yng ngogledd Ewrop ac Asia, ond ychydig mwy i'r de na Alarch Bewick. Maent yn paru am oes. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, er enghraifft mae nifer fach o adar o Wlad yr Iâ yn gaeafu yng Nghymru a niferoedd mwy yn Iwerddon a Lloegr.
Enwau yn yr ieithoedd Celtaidd
golyguDyma enw'r aderyn hwn mewn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill:
- Gwyddeleg: Eala ghlórach
- Llydaweg: Alarc'h-kristilh
- Gaeleg yr Alban: Eala fhiadhaich
- Manaweg: Ollay chiaullee
- Cernyweg: Qussuk