Aldi
Mae Aldi yn archfarchnad sydd a'i gwreiddiau yn yr Almaen ac sydd â phresenoldeb bellach yn y rhan fwyaf o wledydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae yna siopau Aldi hefyd yn Awstralia a'r Unol Daleithiau. Mae o leiaf un siop Aldi yn y mwyafrif o drefi a phentrefi'r Almaen. Mae tua 4,100 o siopau Aldi yn yr Almaen a thua 7,600 ledled y byd. Daw enw'r cwmni o lythrennau cyntaf y geiriau ALbrecht-DIskont (Disgownt Albrecht).
Delwedd:AldiNord-WorldwideLogo.svg, Aldi Süd 2017 logo.svg | |
Math | cadwyn o archfarchnadoedd |
---|---|
Diwydiant | manwerthu, Tŷ disgownt |
Sefydlwyd | 1946 |
Sefydlydd | Karl Albrecht, Theo Albrecht |
Pencadlys | Essen |
Perchnogion | Karl Albrecht, Theo Albrecht |
Gwefan | https://www.aldi.com, https://www.aldi.dk/, https://www.aldi.es, https://store.aldi.com.au/, https://www.aldi.it/, https://aldi.de/ |
Prif fusnes y cwmni yw adwerthu bwyd ond mae hefyd yn gwerthu nwyddau eraill ar adegau.
Hanes
golyguCafodd y cwmni ei sefydlu ym 1913 fel busnes groser teuluol yn Essengan Anna Albrech. Ym 1946 daeth y brodyr Karl Albrecht (1920 - 2014) a Theo Albrecht (1922 -2010) yn berchenogion y busnes trwy ei hetifeddu gan eu mam. Y brodyr Albrecht oedd y cyntaf i sefydlu siopau disgownt yn yr Almaen trwy gael ystod gyfyngedig o nwyddau yn eu siopau. Mae'r rhan fwyaf o'r nwyddau sy'n cael eu gwerthu yn y siopau yn rhai "brand eu hunain", ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd eraill dydy labeli'r nwyddau ddim yn ymddangos fel eu bod yn berchen i'r siop yn y modd y mae brandiau megis "Asda Smart Price" neu "Tesco Finest" yn gwneud; er enghraifft mae sglodion tatws Aldi yn cael eu gwerthu gyda'r enw Champion Chips[1] yng Nghymru a Lloegr, gan roi'r argraff eu bod yn sglodion brand annibynnol yn hytrach na brand y siop.
Ym 1960 bu anghydfod rhwng y brodyr parthed gwerthu sigarennau a chafodd y cwmni ei rannu'n ddwy, Aldi Nord (Aldi'r Gogledd) o dan reolaeth Theo, ac Aldi Sud (Aldi'r De) o dan reolaeth Karl.
Dosbarthiad Rhyngwladol
golyguGwlad | Enw | Grŵp Aldi | Ers | Allfeydd |
---|---|---|---|---|
Almaen | Aldi | Nord | 1946 | 2,400 |
Aldi | Süd | 1946 | 1,790[2] | |
Awstralia | Aldi | Süd | 2001 | 311[3] |
Awstria | Hofer | Süd | 1968 | 430[2] |
Gwlad Belg | Aldi | Nord | 1973 | 380 |
Denmarc | Aldi | Nord | 1977 | 244 |
Ffrainc | Aldi | Nord | 1988 | 680 |
Hwngari | Aldi | Süd | 2008 | 75 [4] |
Iwerddon | Aldi | Süd | 1998 | 105 |
Lwcsembwrg | Aldi | Nord | 1990 | 12 |
Yr Iseldiroedd | Aldi | Nord | 1975 | 406 |
Gwlad Pwyl | Aldi | Nord | 2008 | 72 |
Portiwgal | Aldi | Nord | 2006 | 36 |
Slofenia | Hofer | Süd | 2005 | 71 |
Sbaen | Aldi | Nord | 2002 | 250 [5] |
Y Swistir | Aldi Suisse | Süd | 2005 | 130[2] |
Y Deyrnas Unedig | Aldi | Süd | 1989 | 500[6] |
Unol Daleithiau America | Aldi | Süd | 1976 | 1,200[7] |
Trader Joe's | Nord | 1979 | 399 | |
cyfanswm nifer siopau Aldi Nord | 4,805 | |||
cyfanswm nifer siopau Aldi Süd | 4,430 | |||
cyfanswm cyfunol o siopau Aldi | 9,235 |
Aldi ym Mhrydain Fawr
golyguAgorodd Aldi ei siop gyntaf ym Mhrydain Fawr ym 1990 gan gynyddu'r nifer i 500 erbyn 2013, erbyn hyn mae gan y cwmni tua 4.7% o gyfran y farchnad ym Mhrydain. Er ddechrau fel siop rad mae'r cwmni bellach wedi dechrau agor siopau mewn lleoliadau cefnog megis Knutsford a Bury St Edmunds ac wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o'r bobl o ddosbarthiadau cymdeithasol AB sydd yn defnyddio'r siopau (tua 20% ym mis Orffennaf 2014) wedi newid ei stoc i ddarparu ar eu cyfer.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.aldi.co.uk/en/product-range/frozen/chips/ Archifwyd 2014-08-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Rhagfyr 2014
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Aldi Süd Facts and Figures". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-22. Cyrchwyd 2008-12-06. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ http://www.theaustralian.com.au/business/companies/aldi-goes-online-to-brew-a-new-battle/story-fn91v9q3-1226667829517
- ↑ Maarten Reul (24 Hydref 2011). "Aldi Hungary to open 40 new stores, chooses quality over price". RetailDetail. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2013.[dolen farw]
- ↑ "Aldi abrirá su tienda española número 250 en Cataluña y prevé más aperturas". Cinco Dias (yn Spanish). 7 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ http://www.telegraph.co.uk/foodanddrink/10412195/How-Aldi-won-the-class-war-and-became-the-fastest-growing-supermarket-in-Britain.html
- ↑ "Discount grocer opens North Bergen store" Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback. The Hudson Reporter. 26 Mawrth 2013.
- ↑ "BBC News -Five ways Aldi cracked the supermarket business" adalwyd 8 Rhagfyr 2014