Actor o Gymro yw Alexander Vlahos (ganwyd 30 Gorffennaf 1988) sydd yn fwyaf adnabyddus am chwarae Philippe d'Orléans, brawd y frenin Louis XIV, yng nghyfres deledu Versailles ar Canal+ ac am chwarae Mordred yn nrama Merlin ar y BBC.

Alexander Vlahos
Ganwyd30 Gorffennaf 1988 Edit this on Wikidata
Llantrisant Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Vlahos yn y Tymbl, Sir Gaerfyrddin,[1] cyn symud i Lantrisant, Morgannwg Ganol. Mae ei dad yn Roegwr tad a'i fam yn Gymraes, ac mae'n siarad Cymraeg a Saesneg.[2] Bu'n chwarae hoci iâ o wyth oed i 18 oed.[3] Hyfforddodd fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, gan raddio yn 2009.[4][5]

Ymddangosodd gyntaf yn nrama BBC Cymru, drama, Crash, yn 2009 yn portreadu Dylan. Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd yn yr opera sebon feddygol Doctors mewn stori dros wythnos o'r enw Master Of The Universe, lle roedd yn chwarae'r brif rhan o Lewis Cutler. Enwebwyd y penodau fel 'Pennod Sengl Gorau' a 'Golygfa Trawiadol y Flwyddyn' yng Ngwobrau Sebon Prydeinig 2010.[6] Hefyd yn 2010, ymddangosodd yn y ddrama GymraegPen Talar a The Indian Doctor, ac yn y ffilm Bright Lights.

Yn 2012 enillodd rôl Preifat Keenan yn Privates, cyfres deledu fer am consgriptiaid yn y Gwasanaeth Cenedlaethol wedi ei osod yn y 1960au, lle roedd rhaid iddo eillio ei ben. Bu hefyd yn chwarae rhan Mordred yng nghyfres pump o Merlin, rôl a oedd yn cael ei chwarae yn wreiddiol gan Asa Butterfield yn y ddau gyfres gyntaf.[7]

O 2012 i 2016 bu'n chwarae rôl Dorian Gray yn nghyfres sain o The Confessions Of Dorian Gray gan gwmni Cynyrchiadau Big Finish.[8] Ygrifennodd un o'r penodau hefyd, The Mayfair Monster, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2013,[9][10] a'r ddrama sain, HMS Surprise ar gyfer casgliad Bernice Summerfield New Frontiers a gafodd ei ryddhau ym mis Ebrill 2013.[11]

O 6 Rhagfyr 2013 ymddangosodd Vlahos yn Fortune's Fool yn yr Old Vic. Cafodd addasiad Mike Poulton o ddrama Turgenev ei gyfarwyddo gan Lucy Bailey, mewn cynhyrchiad oedd yn serennu Iain Glen a Richard McCabe.[12]

Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddwyd y byddai yn chwarae Bertie Potts yng ngyfres sain byr "The Diary of River Song" wedi ei osod ym mydysawd Doctor Who bydysawd, ochr yn ochr ag Alex Kingston.

Yn y gyfres deledu hanesyddol Ffrenging fywyd yn llys Louis XIV, Versailles, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2015, mae'n rhan o'r prif gast, yn serennu fel brawd y brenin, Philippe I, Duke of Orléans. Ffilmiwyd ail gyfres yn gynnar yn 2016 a roedd yn edrych ar ochr ysgafnach Philippe, y tro cyntaf i Vlahos bortreadu cymeriad ysgafn ers peth amser. Ar 14 Medi 2016 cadarnhaodd y cynhyrchydd Claude Chelli fod Versailles wedi ei adnewyddu am drydydd cyfres, bydd yn dechrau ffilmio ym mis Ebrill 2017.[13]

Yn y ddrama-ddogfen Barbarians Rising (2016), cyd-gynhyrchiad byd-eang ar gyfer sianeli History, mae Vlahos yn chwarae yr ymerawdwr Rhufeinig Valentinian mewn un bennod. Mae hefyd yn portreadu yr athronydd a mathemategydd Rwmaneg Maurice Solovine mewn un bennod o Genius, cyfres sgriptiedig cyntaf y National Geographic Channel, a ddangoswyd gyntaf yn Ebrill 2017.[14]

O 11 Chwefror i 11 Mawrth 2017 serennodd Vlahos yng nghynyrchiad Max Gill o La Ronde, fersiwn modern, niwtral o ran rhywedd o'r ddrama gan Arthur Schnitzler. Roedd cast o bedwar yn chwarae y deg cymeriad a ddewiswyd ar hap ar y llwyfan bob noson gyda olwyn roulette. Yn nrama clywedol Hamlet gan gynyrchiadau Big Finish yn 2017 roedd Vlahos yn chwarae'r prif gymeriad o Hamlet.[15]

Ffilmyddiaeth

golygu
Teledu
Teitl Blwyddyn Rhan Nodiadau
Crash 2009-2010 Dylan
Doctors
2010 Lewis Cutler 5 pennod
All Shook Up!

2010 Dafydd Hibbard
Pen Talar 2010 Iolo 3 pennod
The Indian Doctor 2010 Tom Evans 5 pennod
The Tower
2011 Tom Ffilm deledu
Merlin 2012 Mordred 12 pennod
Privates 2013 Preifat Keenan 5 pennod
Versailles 2015–2018 Philippe I, Duke of Orléans Prif gast
Barbarians Rising

2016 Valentinian III 4 pennod
Prisoner Zero 2016 Zero Llais
Genius 2017 Maurice Solovine 3ydd bennod
Ffilm
Teitl Blwyddyn Rhan Nodiadau
Bright Lights

2010 Steff Ffilm fer
Truth or Dare 2012 Luke
Button Eyes 2013 Bachgen Ffilm fer
The Head Hunter 2016 Herbert Mullin
Cyfresi sain a llyfrau llafar
Teitl Blwyddyn Cynhyrchydd Rhan Nodiadau
Gallifrey 2011 Big Finish Productions
Cyfres 4
The Confessions o Dorian Gray 2012-2016 Dorian Gray Cyfresi 1-5
Bernice Summerfield 2012 Gray Casgliad 3 "Legion"
2013 Awdur "HMS Surprise"

ar gasgliad 4 "New Frontiers"

The Diary of River Song

2015 Bertie Potts
Doctor Who - The Lives of Captain Jack 2017 Y Dieithryn
Hamlet 2017 Hamlet

Theatr

golygu
Teitl Flwyddyn Rôl Cyfarwyddwr
Fortune's Fool

2013 Pavel Yeletsky Lucy Bailey
Macbeth[16] 2013 Malcolm Kenneth Branagh
La Ronde 2017 Max Gill

Cyfeiriadau

golygu
  1. BJsRealm (24 Hydref 2012), Merlin S5 | S4CsHeno: Alex Vlahos about 'Merlin', 'Privates' and a new movie role [no S5 spoilers], https://www.youtube.com/watch?v=ZncHgVHAxvc, adalwyd 26 Awst 2016
  2. Owens, Dave (21 Hydref 2012). "Welsh actor Alexander Vlahos is casting a spell in Merlin". Wales Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 25 Hydref 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Walker-Arnott, Ellie (11 Rhagfyr 2012). "Alexander Vlahos webchat: "Merlin has changed my life"". Radio Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-02. Cyrchwyd 18 Mehefin 2017.
  4. "IMDb Bio"
  5. "Twitter"
  6. "The British Soap Awards 2010". ITV. 19 Mai 2010. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  7. Jeffery, Morgan (11 Hydref 2012). "Alexander Vlahos 'Merlin' Q&A: 'Mordred might not be the villain'". Digital Spy. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  8. "The Confessions Of Dorian Gray". Big Finish Productions. Cyrchwyd 11 January 2013.
  9. "The Confessions of Dorian Gray - The Mayfair Monster". Big Finish Productions. Cyrchwyd 11 Medi 2016.
  10. Oebel, Nicole (8 Medi 2016). "'Versailles' interview with Alexander Vlahos". myFanbase. Cyrchwyd 11 Medi 2016.
  11. "New Frontiers - Bernice Summerfield: Box Sets". Big Finish Productions. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
  12. "Fortune's Fool". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-09. Cyrchwyd 10 May 2017.
  13. Sitbon, Prescilia (14 Medi 2016). "C. CHELLI (CAPA Drama) : «Versailles saison 3 devrait entrer en tournage en avril 2017» - média+" (yn Ffrangeg).
  14. Oebel, Nicole (24 Chwefror 2017). "Alexander Vlahos Interview - From Versailles to La Ronde". myFanbase. Cyrchwyd 21 March 2017.
  15. Oebel, Nicole (14 Rhagfyr 2016). "'Hamlet' interview with Alexander Vlahos & Scott Handcock". myFanbase. Cyrchwyd 21 March 2017.
  16. Rooney, David (5 Mehefin 2014). "Theater Review: Kenneth Branagh in 'Macbeth'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 18 Mehefin 2017.

Dolenni allanol

golygu