Bardd, newyddiadurwraig a dramodydd Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Alfonsina Storni (29 Mai 189225 Hydref 1938). Mae ei barddoniaeth yn nodedig am onestrwydd y safbwynt benywaidd sy'n amlygu ffaeleddau'r drefn batriarchaidd, a fe'i gelwir yn "fardd ffeministaidd gyntaf America Ladin".[1] Er iddi bortreadu a beirniadu'r rhyw wryw trwy gyfrwng eironi, nid oedd yn swil i fynegi ei chwantau rhamantaidd a rhywiol am ddynion yn ei cherddi erotig.[2]

Alfonsina Storni
GanwydAlfonsina Carolina Storni Edit this on Wikidata
29 Mai 1892 Edit this on Wikidata
Capriasca Edit this on Wikidata
Bu farw25 Hydref 1938 Edit this on Wikidata
Mar del Plata Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethdyddiadurwr, bardd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
MudiadÔl-foderniaeth Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn Sala Capriasca, Ticino, yn y Swistir. Ymfudodd ei theulu i'r Ariannin yn 1896, a chafodd ei magu yng nghefn gwlad. Ymunodd â chwmni o actorion yn ystod ei hieuenctid. Cychwynnodd ar ei gyrfa yn athrawes yn Rosario, Talaith Santa Fe, yn 19 oed. Cafodd blentyn anghyfreithlon yn 1912, a bu'n rhaid iddi adael ei swydd. Aeth i Buenos Aires yn 1913, ac yno bu'n cwrdd â'r llenor Horacio Quiroga.

Cyhoeddodd Storni ei llyfr cyntaf, La inquietud del rosal, yn 1916, ac yn yr hwnnw clywir y llais angerddol a'r sentimentaliaeth sy'n nodweddiadol o'i cherddi cynnar. Denodd ragor o sylw gyda El dulce daño (1918) ac Irremediablemente (1919). Adlewyrchodd ddatblygiadau llenyddol y cyfnod, yn bennaf moderniaeth ond hefyd ôl-foderniaeth, a ddangosir yn y gyfrol Languidez (1920).[1]

Wedi iddi gyhoeddi'r gyfrol Ocre yn 1925, trodd ei sylw at newyddiaduraeth yn bennaf. Ysgrifennodd hefyd ambell ddrama, gan gynnwys y gomedi El amo del mundo (1927), er na chafodd fawr o lwyddiant yn y theatr.[2] Erbyn ei blynyddoedd olaf, datblygodd fynegiadaeth gymhleth yn ei cherddi. Ei dwy gyfrol olaf o farddoniaeth oedd El mundo de siete pozos (1934) a'r casgliad o wrth-sonedau Mascarilla y trébol (1938). Dylanwadwyd arni gan yr avant-garde, sy'n amlwg yn Mascarilla y trébol.[1]

Enillodd Storni sylw'r byd llenyddol a'r cyhoedd bron o'r cychwyn, er yr oedd ambell un yn feirniadol ohoni. Wfftiodd Jorge Luis Borges ei "llais main ac aneglur", er enghraifft.[1] Dioddefai o ganser y fron yn ei blynyddoedd olaf, a bu farw trwy hunanladdiad pan foddai ei hunan yn y môr ger Mar del Plata.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Maarten Steenmeijer, "Storni, Alfonsina" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 550.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Alfonsina Storni. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ebrill 2019.