Llenor straeon byrion a newyddiadurwr yn yr iaith Sbaeneg o Wrwgwái a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn yr Ariannin oedd Horacio Quiroga (31 Rhagfyr 187819 Chwefror 1937).[1] Lleolir nifer o'i straeon yng nghoedwigoedd trofannol De America, ac yn portreadau brwydrau dyn ac anifail, ac yn aml disgrifiadau o afiechyd meddwl a rhithwelediadau. Fe'i ystyrir yn un o lenorion gwychaf llên Wrwgwái, yn feistr ar y stori fer Sbaeneg, ac yn ddylanwad pwysig ar realaeth hudol, ôl-foderniaeth, a swrealaeth yn llên America Ladin.

Horacio Quiroga
FfugenwS. Fragoso Lima Edit this on Wikidata
GanwydHoracio Silvestre Quiroga Forteza Edit this on Wikidata
31 Rhagfyr 1878 Edit this on Wikidata
Salto Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 1937 Edit this on Wikidata
o gwenwyno gan syanid Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur storiau byrion, dramodydd, bardd, ysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Mudiadmoderniaeth Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Horacio Quiroga ar 31 Rhagfyr 1878 yn ninas Salto, Wrwgwái. Saethodd ei dad ei hunan yn farw ar ddamwain yn 1879. Astudiodd Horacio ym Mhrifysgol Montevideo. Ei fenter gyntaf ym myd llenyddiaeth oedd cyd-sefydlu'r cylchgrawn Revista del Salto yn 1899. Teithiodd i Baris yn 1900.

Swyddi ac anturiaethau yn yr Ariannin golygu

Ymsefydlodd Quiroga yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, ac addysgodd Sbaeneg yn y Coleg Cenedlaethol yno yn 1903. Y flwyddyn honno, teithiodd fel ffotograffydd gyda'r bardd Archentaidd Leopoldo Lugones i hen genadaethau yr Iesuwyr yn Nhalaith Misiones. Teimlodd atyniad at y berfeddwlad hon, tiroedd nad anturiodd neb iddynt, ac yn 1906 prynodd 185 hectar ger tref San Ignacio, Misiones. Gweithiodd hefyd yn was sifil ac yn ustus heddwch yn yr ardal honno. Yn ddiweddarach, tyfodd gotwm yn Nhalaith Chaco. Addysgodd yr iaith Sbaeneg a'i llenyddiaeth yn Escuela Normal, Buenos Aires, o 1906 i 1911. Wedi 1917, gweithiodd mewn conswliaethau Wrwgwái yn yr Ariannin.[2]

Ei lenydda toreithiog golygu

Ysgrifennodd Quiroga ryw 200 o straeon byrion yn ystod ei oes. Dwy thema gyson yn ei waith ydy bywyd y fforiwr a'r amaethwyr arloesol, a llên ffantasi. Cysylltir yn aml â'r mudiad llenyddol Sbaeneg modernismo, a dylanwadwyd arno gan lenorion straeon byrion gorau Ewrop a'r Unol Daleithiau yn y 19g: Kipling, Poe, Chekhov, a Maupassant.

Un o'i arbrofion cynnar â chrefft y llenor ydy Los arrecifes de coral (1901), casgliad o ryddiaith a barddoniaeth sy'n dynwared technegau ffasiynol y cyfnod. Mae straeon y gyfrol Cuentos de amor, de locura, y de muerte (1917) yn nodweddiadol o'i ddiddordeb yn y dieithr a'r erchyll. Ymhlith ei gasgliadau o straeon y jyngl mae Cuentos de la selva (1918), Anaconda (1921), ac El desierto (1924). Ysgrifennodd hefyd straeon ffraeth a soffistigedig, megis y rhai sy'n llenwi'r gyfrol Mas alla (1935).

Ysgrifennodd hefyd ddwy nofel, Historia de un amor turbio (1908) a Pasado amor (1929), ac un ddrama, Los sacrifadas, cuentos escénico en cuatro actos (1920). Cyhoeddodd gyfrol o ysgrifau, Suelo natal, yn 1931.[2]

Iselder ysbryd ac hunanladdiad golygu

Dioddefai Quiroga o iselder ysbryd, a bu'n dioddef o ganser ar ddiwedd ei oes. Bu farw ar 19 Chwefror 1937 mewn ysbyty yn Buenos Aires, trwy hunanladdiad, yn 58 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Horacio Quiroga. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Ebrill 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Jason Wilson, "QUIROGA, Horacio (Sylvestre)" yn Reference Guide to Short Fiction (Gale, 1999). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 22 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu