Alfred Lewis Jones
Perchennog a gwneuthurwr llongau Cymreig o Sir Gaerfyrddin oedd Syr Alfred Lewis Jones (1845 – 13 Rhagfyr 1909).
Alfred Lewis Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1845 Caerfyrddin |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1909 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | perchennog llongau |
Cyflogwr | |
Tad | Daniel Jones |
Bywgraffiad
golyguYn ddeuddeg oed cafodd Jones brentisiaeth yng ngwmni'r African Steamship Company yn Lerpwl a bu ar sawl mordaith i arfordir gorllewin Affrica. Erbyn iddo gyrraedd ei ben-blwydd yn 26 oed, roedd yn reolwr y busnes. Benthycodd ddigon o arian i brynnu dau neu dri cwch hwylio bychan, a dechrau cwmni ei hun. Llwyddodd y fenter a datblygodd ei stoc o longau ond sylweddolodd yn fuan wedyn nad oedd dyfodol i longau hwylio a gwerthodd y cyfan i Messrs. Elder, Dempster & Co..
Tua'r adeg yma, ym 1891, cynigiodd prynwyr ei gwmni swydd y rheolwr iddo, a derbyniodd ar yr amod eu bont yn gwerthu nifer o gyfranddaliadau yn y cwmni iddo. Drwy hyn, dechreuodd y broses o brynu llawer iawn o gyfranddaliadau yng Nghwmni Messrs. Elder, Dempster & Co.. Dechreuodd ymwneud â gweinyddiaeth Gorllewin Affrica a Lloegr Imperialaidd a buddsoddodd mewn nifer o gwmniau eraill a oedd yn sefydlu busnesau yno.
Yn y 1900au prynodd Navigation Collieries Ltd er mwyn cynhyrchu tanwydd ar gyfer ei longau a phrynodd dau lofa ym Maesteg i'r un perwyl. Dechreuodd agor lonydd cyfathrebu gydag ynysoedd y India'r Gorllewin a datblygodd masnach ffrwythau a thwristiaeth Jamaica ac Ynysodd y Caneri.
Ariannodd Liverpool School of Tropical Medicine a bu'n gadeirydd "the Bank of British West Africa".
Bu farw ar 13 Rhagfyr 1909, yn ddibriod gan adael llawer o'i arian i elusennau ac achosion da.