Alfred Mond
Roedd Alfred Moritz Mond, Barwn 1af Melchett PC, FRS (23 Hydref 1868 – 27 Rhagfyr 1930) yn ddiwydiannwr, ariannwr a gwleidydd Prydeinig.[1]
Alfred Mond | |
---|---|
Ganwyd | 23 Hydref 1868 Farnworth |
Bu farw | 27 Rhagfyr 1930 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes, diwydiannwr, ariannwr, seionydd |
Swydd | Prif Gomisiynydd Gweithfeydd, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol |
Tad | Ludwig Mond |
Mam | Frida Mond |
Priod | Violet Mond |
Plant | Henry Mond, Ail Farwn Melchett, Eva Isaacs, Mary Angela Mond, Rosalind Jean Nora Mond |
Gwobr/au | doctor honoris causa from the University of Paris |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguCafodd Mond ei eni yn Farnworth, Widnes, Swydd Gaerhirfryn yn fab ieuengaf i Ludwig Mond, fferyllydd a diwydiannwr o dras Iddewig a oedd wedi ymfudo o'r Almaen a Frieda, née Lowenthal e'i wraig.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Cheltenham ac yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, lle bu'n astudio gwyddoniaeth ond methodd ennill gradd.
Aeth i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin a chafodd ei alw i'r bar gan y Deml Fewnol ym 1894.
Gyrfa busnes
golyguWedi gorffen ei gyfnod yn y coleg ymunodd a busnes ei dad, Brunner Mond & Company fel cyfarwyddwr, gan ddod yn rheolwr gyfarwyddwr y cwmni yn ddiweddarach. Bu hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr ar un o gwmniau eraill ei dad y Mond Nickel Company. Bu hefyd yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau eraill gan gynnwys International Nickel Corporation of Canada, Banc Westminster a'r Industrial Finance Investment Corporation. Daeth ei lwyddiant busnes mawr ym 1926 pan lwyddodd i uno pedwar cwmni cemegol i ffurfio Imperial Chemical Industries (ICI) un o gorfforaethau diwydiannol mwyaf yn y byd ar y pryd. Mond oedd ei gadeirydd cyntaf.
Gyrfa wleidyddol
golyguBu Mond hefyd yn ymwneud â gwleidyddiaeth bu'n eistedd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Dinas Caer 1906-1910, ar gyfer Abertawe 1910-1918 ac ar gyfer Gorllewin Abertawe o 1918 i 1923. Gwasanaethodd yn llywodraeth glymblaid David Lloyd George fel Brif Comisiynydd y Gwaith 1916-1921 ac fel Gweinidog Iechyd (gyda sedd yn y cabinet) o 1921 i 1922. Bu'n cynrychioli Gaerfyrddin 1924-1928 fel Rhyddfrydwr i gychwyn ond gan groesi at y Ceidwadwyr ar ôl anghytuno gyda David Lloyd George dros gynlluniau dadleuol y cyn Brif Weinidog i genedlaetholi tir amaethyddol.[2]
Cafodd Mond ei urddo'n Farwnig ym 1910, a chafodd ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor ym 1913. Ym 1928 cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Melchett, o Landford yn Swydd Southampton.
Seioniaeth
golyguYmwelodd Mond a Palestina am y tro cyntaf yn 1921 gyda Chaim Weizmann ac ar ôl hynny daeth yn Seionydd brwdfrydig, gan gyfrannu arian i'r Jewish Colonization Corporation for Palestine a gan ysgrifennu yn helaeth ar gyfer cyhoeddiadau Seionaidd. Daeth yn Llywydd y Sefydliad Seionaidd Prydain a gwneud cyfraniadau ariannol i achosion Seionaidd. Ef oedd Llywydd cyntaf y Technion ym 1925. Sefydlodd Melchett dref Tel-Mond, sydd yn awr yn Israel. Mae gan Tel Aviv a nifer o ddinasoedd eraill yn Israel strydoedd o'r enw Stryd Melchett er cof amdano.[3]
Anrhydeddau
golyguEtholwyd Mond yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ym 1928 a derbyniodd nifer o raddau er anrhydedd gan Rydychen, Paris a phrifysgolion eraill.
Bywyd personol
golyguYm 1894 priododd Mond Violet Goetze a bu iddynt un mab, Henry Ludwig, a thair merch. Bu farw Mond yn ei gartref yn Llundain yn 1930
Cyhoeddiadau
golyguIndustry and Politics (1927)
Imperial Economic Unity (1930)
Cyfeiriadau llenyddol
golyguMae Mond yn cael ei grybwyll yng Ngherdd 1920 gerdd TS Eliot A Cooking Egg
Credir mai Mond yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gymeriad Mustapha Mond, un o'r deg rheolwr y byd yn nofel Aldous Huxley Brave New World (1932).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Biography of MP; 1st Baron Melchett Alfred Mond Liberal Democrat History [1] Archifwyd 2014-08-30 yn y Peiriant Wayback adalwyd 24 Rhagfyr 2014
- ↑ The Land Question in England, trawsysgrif o ddarlith gan Mond 1913 [2][dolen farw] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
- ↑ The Blackwell Dictionary of Judaica; Gol: Dan Cohn-Sherbok ISBN 9780631187288
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Robert Yerburgh |
Aelod Seneddol dros Dinas Caer 1906 – 1910 |
Olynydd: Robert Yerburgh |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: George Newnes |
Aelod Seneddol dros Abertawe 1910 – 1918 |
Olynydd: dileu'r etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Gorllewin Abertawe 1918 – 1923 |
Olynydd: Howel Walter Samuel |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Ellis Jones Ellis-Griffith |
Aelod Seneddol dros Caerfyrddin 1924 – 1928 |
Olynydd: William Nathaniel Jones |