Alice Roberts

actores

Academydd, cyflwynydd teledu ac awdur o Loegr yw Alice May Roberts FRSB (ganwyd 19 Mai 1973)[1]. Mae hi'n Athro Ymgysylltu â'r Cyhoedd mewn Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Birmingham .

Alice Roberts
Ganwyd19 Mai 1973 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
AddysgMeddyg Meddygaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethanthropolegydd, llenor, paleoanthropolegydd, meddyg, archeolegydd, cyflwynydd teledu, biolegydd, paleontolegydd, anatomydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGradd er anrhydedd o Brifysgol Leeds, David Attenborough Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.alice-roberts.co.uk/ Edit this on Wikidata

Cafodd Roberts ei geni ym Mryste,[2] yn ferch i beiriannydd awyrennol ac athrawes. [3] Cafodd ei magu yn Westbury-on-Trym lle mynychodd Ysgol y Red Maids. [2] [4] [5] Ym mis Rhagfyr 1988, enillodd gystadleuaeth celf Blue Peter ar BBC1, gan ymddangos gyda'i llun a'r cyflwynwyr ar glawr blaen o'r Radio Times . [6]

Astudiodd Roberts feddygaeth yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru (yn rhan o Brifysgol Caerdydd) heddiw). Graddiodd ym 1997 gyda gradd Baglor mewn Meddygaeth, Baglor Llawfeddygaeth (MB BCh), ar ôl ennill gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Anatomeg.[4][7][8]

Ar ôl graddio, bu Roberts yn gweithio fel meddyg iau gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Ne Cymru am 18 mis. Ym 1998 gadawodd feddygaeth glinigol. Gweithiodd fel arddangoswr anatomeg ym Mhrifysgol Bryste, lle daeth hi'n ddarlithydd ym 1999. [2][4]

Ymddangosodd Roberts ar y teledu am y tro cyntaf ym mhennod Time Team Live 2001, [9] [10] yn gweithio ar gladdedigaethau Eingl-Sacsonaidd yn Breamore, Hampshire. Gwasanaethodd fel arbenigwr esgyrn a chyflwynydd cyffredinol mewn sawl pennod, gan gynnwys y gyfres ddeilliedig Extreme Archaeology. Ym mis Awst 2006, ymchwiliodd pennod arbennig Time Team Big Royal Dig i archaeoleg palasau brenhinol Prydain; Roberts yn un o'r prif gyflwynwyr. Roedd Roberts yn un o gyd-gyflwynwyr rheolaidd cyfres ddaearyddol ac amgylcheddol y BBC Coast. [11]

Mae Roberts yn byw gyda'i gŵr, David Stevens, a dau o blant.[12] Cyfarfu â’i gŵr yng Nghaerdydd ym 1995 pan oedd hi'n fyfyriwr meddygol; roedd Stevens yn fyfyriwr archaeoleg. [12][2] Priodasant yn 2009.[13]

Cyfeiriadau

golygu
  1. @. "On the day after my 40th birthday – I make it to 40k followers!" (Trydariad) (yn Saesneg) – drwy Twitter.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "In the hot seat: Alice Roberts". thisisbristol.co.uk. 11 Gorffennaf 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mai 2009. Cyrchwyd 28 Mai 2009.
  3. Lewis, Roz (27 Mawrth 2013). "TV academic Alice Roberts: 'I started as a doctor on £21,000'". The Telegraph. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2013.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Staff: Dr Alice May Roberts MB BCh BSc PhD". Prifysgol Bryste. 24 Ebrill 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 May 2009. Cyrchwyd 29 Mai 2009.
  5. "Redmaids' School Celebrating 375 Years" (PDF). Redmaids' School. 2009. t. 2. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 28 Medi 2013. Cyrchwyd 20 Hydref 2009.
  6. "RT 3393 – 10–16 Dec 1988 (South) BLUE PETER – 30 Years – Alice Roberts with her Blue Peter picture." (yn en). Radio Times (3393). 10 Rhagfyr 1988. http://www.radiotimesbacknumbers.com/Category/Radio+Times--3aRT+1980-89--3aRT+1988/12643/Review.aspx.
  7. "University of Bristol: Directory of Experts". Prifysgol Bryste. Cyrchwyd 27 Mai 2009.
  8. "Professor Alice Roberts – Professor of Public Engagement in Science" (yn Saesneg). University of Birmingham. Cyrchwyd 19 Ionawr 2019.
  9. "Programmes – Most Popular – All 4". Channel 4.
  10. Time Team Live 2001. Channel 4.
  11. "The Team". Coast. BBC. Cyrchwyd 17 Hydref 2015.
  12. 12.0 12.1 "Alice Roberts: a successful boffin without a beard". The Independent (yn Saesneg). 30 Awst 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-17.
  13. "Meet Professor Alice Roberts host of Curse of the Ancients". Sky HISTORY TV channel (yn Saesneg).