Alice Through the Looking Glass
Ffilm ffantasi antur Americanaidd o 2016 yw Alice Through the Looking Glass a gyfarwyddwyd gan James Bobin, ysgrifennwyd gan Linda Woolverton a cynhyrchwyd gan Tim Burton, Joe Roth, Suzanne Todd a Jennifer Todd. Mae'n seiliedig ar y cymeriadau a grewyd gan Lewis Carroll ac yn ddilyniant i'r ffilm Alice in Wonderland a ryddhawyd yn 2010. Mae'r ffilm yn serennu Johnny Depp, Anne Hathaway, Mia Wasikowska, Matt Lucas, Rhys Ifans, Helena Bonham Carter a Sacha Baron Cohen ac yn cynnwys lleisiau Stephen Fry, Michael Sheen, Timothy Spall ac Alan Rickman, yn ei ran ffilm olaf.
Alice Through the Looking Glass | |
---|---|
Cyfarwyddwyd gan | James Bobin |
Cynhyrchwyd gan | |
Awdur (on) | Linda Woolverton |
Seiliwyd ar | Cymeriadau greuwyd gan Lewis Carroll |
Yn serennu | |
Cerddoriaeth gan | Danny Elfman |
Sinematograffi | Stuart Dryburgh |
Golygwyd gan | Andrew Weisblum |
Stiwdio |
|
Dosbarthwyd gan | Walt Disney Studios Motion Pictures |
Rhyddhawyd gan |
|
Hyd y ffilm (amser) | 113 munud[1] |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Cyfalaf | $170 miliwn[2] |
Gwerthiant tocynnau | $299.4 miliwn[1] |
Yn y ffilm, mae Alice yn dod o hyd i ddrych hudol sy'n ei chymryd nôl i Wlad Hud, lle mae'n canfod yr Hetiwr Gwallgof yn ymddwyn yn fwy gwallgof nac erioed ac yn eisiau darganfod y gwir am ei deulu. Mae Alice wedyn yn teithio drwy amser (gyda'r "Cronosffêr"), yn gweld ffrindiau a gelynion ar adegau gwahanol o'u bywydau, ac yn cychwyn ar ras i achub yr Hetiwr cyn i amser redeg allan.
Dangoswyd y ffilm gyntaf yn Llundain ar 10 Mai 2016 a fe'i ryddhawyd yn y sinemâu gan Walt Disney Pictures ar 27 Mai 2016. Cafodd y ffilm adolygiadau gwael gan y beirniaid ac ystyriwyd nad oedd wedi llwyddo cystal o ran gwerthiant tocynnau oherwydd y gymhariaeth gyda llwyddiant y ffilm gyntaf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Alice Through the Looking Glass (2016)". Box Office Mojo. Cyrchwyd 27 Medi 2016.
- ↑ Brooks Barnes (M17 Mai 2016). "Alice in Wonderland, With Even More British Whimsy". The New York Times. Cyrchwyd 18 Mai 2016. Check date values in:
|date=
(help)