Alice in Wonderland (ffilm 2010)
Ffilm ffantasi Americanaidd cyfarwyddwyd gan Tim Burton, ysgrifennwyd gan Linda Woolverton ac yn serennu Mia Wasikowska, Johnny Depp, Helena Bonham Carter, Anne Hathaway, Crispin Glover, Michael Sheen, a Stephen Fry, rhyddhawyd gan Walt Disney Pictures, yw Alice in Wonderland. Estyniad o'r nofelau Alice's Adventures in Wonderland a Through the Looking-Glass gan Lewis Carroll yw'r ffilm,[4] a defnyddir ffilm ffilm-go-iawn ac animeiddiad 3D gyda'i gilydd.
Poster theatraidd | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Tim Burton |
Cynhyrchydd | Richard D. Zanuck Joe Roth Suzanne Todd Jennifer Todd |
Ysgrifennwr | Lewis Carroll (nofel) Linda Woolverton (ffilm) |
Serennu | Mia Wasikowska Johnny Depp Helena Bonham Carter Anne Hathaway Crispin Glover Matt Lucas |
Cerddoriaeth | Danny Elfman |
Sinematograffeg | Dariusz Wolski |
Golygydd | Chris Lebenzon |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Roth Films The Zanuck Company Team Todd |
Dosbarthydd | Walt Disney Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 25 Chwefror 2010 (Llundain) 5 Mawrth 2010 |
Gwlad | UDA |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | UD$150[1][2] - $200[3] miliwn |
Refeniw gros | UD$1,024,297,771 |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Yn y ffilm, mae Alice yn 19 oed a dychwela hi, trwy ddamwain, i Underland (meddylia Alice mai Wonderland yw'r enw lle), daeth hi i'r lle hwn dair blynedd ar ddeg yn flaenorol. Dywedir Alice ei bod hi'n yr unig un sy'n gallu lladd y Jabberwocky, creadur draig-esque a rheolir gan y Frenhines Goch sy'n brawychu'r trigolion Underland. Dywedodd Burton roedd y stori wreiddiol Wonderland am ferch sydd wedi crwydro o gwmpas a wedi cwrdd â chymeriadau od a does dim perthynas rhwng y stori a'i hun felly oedd ei eisiau creu stori yn hytrach na gyfres digwyddiadau. Sgriniwyd y ffilm yn gyntaf ar Chwefror 25, 2010 yn Odeon Leicester Square, Llundain. Rhyddhawyd y ffilm wedyn yn Awstralia ar 4 Fawrth 2010, yn yr UDA a'r DU ar Fawrth 5 2010 trwy IMAX 3D a Disney Digital 3D, yn ogystal â sinemâu traddodiadol.
Treuliodd y Alice in Wonderland tair wythnos fel y ffilm rhif un yn America a Chanada a mae'n yr ail ffilm mwyaf llwyddiannus yn ariannol yn rhyngwladol, y chweched ffilm mwyaf llwyddiannus erioed.[5] Hefyd, y chweched ffilm i ennill mwy na $1 biliwn yw'r ffilm.[6]
Cymeriadau
golygu- Mia Wasikowska fel Alice Kingsleigh
- Johnny Depp fel Tarrant Hightopp, y Mad Hatter (y Hetiwr Gwallgof)
- Helena Bonham Carter fel Iracebeth, The Red Queen (cyfuniad y Frenhines y Calonnau o Alice's Adventures in Wonderland a'r Frenhines Goch o Through the Looking-Glass)
- Anne Hathaway fel Mirana, The White Queen (Y Frenhines Wen)
- Crispin Glover fel Ilosovic Stayne, Knave of Hearts (Jac y Calonnau)
- Matt Lucas fel Tweedledee a Tweedledum
- Michael Sheen fel Nivens McTwisp, y White Rabbit (y Gwningen Wen)
- Alan Rickman fel Absolem, y Caterpillar (y Lindysyn)
- Barbara Windsor fel Mallymkun, y Dormouse (y Pathew)
- Stephen Fry fel Chessur, y Cheshire Cat (y Gath Swydd Gaer)
- Paul Whitehouse fel Thackery Earwicket, y March Hare (y Sgwarnog Fawrth)
- Timothy Spall fel Bayard, gwaetgi
- Michael Gough fel Uilleam, y Dodo
- Christopher Lee fel y Jabberwocky
- Imelda Staunton fel y blodau siarad
- Leo Bill fel Hamish Ascot, bachgen arglwydd sydd eisiau priodi Alice
- Frances de la Tour fel Imogene, modryb i Alice
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Trouble at the tea party: 'Alice in Wonderland' faces theater owner revolt in U.K.
- ↑ Joe Roth, Back in Wonderland
- ↑ First look: 'Alice in Wonderland' opens to record-setting $210 million
- ↑ "Alice in Wonderland – Press Conference with Tim Burton". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-26. Cyrchwyd 2010-09-11.
- ↑ 2010 Yearly Box Office Results
- ↑ "Alice in Wonderland Tops $1 Billion Worldwide". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-04. Cyrchwyd 2010-09-11.