Rhestr beirdd Cymraeg c.550–1600
Mae hyn yn rhestr o'r beirdd Cymraeg hysbys a ganai ar y mesurau caeth yn bennaf rhwng canol y 5fed ganrif a diwedd yr 16g. Sylwer nad yw'n cynnwys beirdd mesurau rhydd y cyfnod diweddar, sef o tua 1550 ymlaen, ond mae'n cynnwys ychydig o feirdd a flodeuai ar ddechrau'r 17g ond sy'n perthyn yn uniongyrchol i'r hen draddodiad barddol. Sylwer yn ogystal fod llawer o ganu'r cyfnodau cynnar yn waith beirdd anhysbys, e.e. yn achos canu crefyddol cynnar a cherddi gnomig a chwedlonol. Anwybyddir hefyd y rhan fwyaf o'r Canu Darogan, cerddi a dadogir yn aml ar y Taliesin chwedlonol, Myrddin a ffigurau eraill.
c.550–1100
golyguMae gwaith rhai o'r beirdd Cymraeg cynharaf wedi goroesi. Cysylltir canran uchel o'r canu gyda'r Hen Ogledd. Mae'r beirdd hyn yn perthyn i gyfnod yr Hengerdd, a adwaenir hefyd fel cyfnod y Cynfeirdd:
- Aneirin (c.550)
- Taliesin (ail hanner y 6g)
- Afan Ferddig (7g efallai)
Mae enwau'r beirdd nad yw eu gwaith wedi goroesi yn cynnwys:
- Arofan (7g)
- Blwchfardd (6g)
- Cian (6g)
- Culfardd
- Golyddan Fardd (bl, 664)
- Talhaearn Tad Awen (6g)
- Tristfardd (6g)
Awduraeth ansicr:
- Afan Ferddig, awdur moliant i Gadwallon ap Cadfan efallai
Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi o'r cyfnod a elwir "Canu'r Bwlch" yn gynnyrch beirdd anhysbys. Cydnabyddir erbyn heddiw nad yw Llywarch Hen yn ffigwr hanesyddol. Cred rhai ysgolheigion fod Heledd, yng nghylch Canu Llywarch Hen, yn brydyddes ond mae eraill yn dadlau mai ei chymeriad sy'n llefaru a bod y cerddi yn waith bardd anhysbys.
1100–1290
golyguArferid cyfeirio at y beirdd llys hyn fel y 'Gogynfeirdd', ond erbyn heddiw aferir yr enw Beirdd y Tywysogion am y beirdd a ganai i frenhinoedd a thywysogion Cymru yn y 12g a'r 13eg. Mae'r rhestr bron iawn yn gronolegol.
- Meilyr Brydydd (fl. 1100–1147)
- Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130–1180)
- Meilyr ap Gwalchmai (fl. ail hanner y 12g)
- Llywelyn Fardd I (fl. tua 1125–1200)
- Hywel ab Owain Gwynedd (m. 1170)
- Owain Cyfeiliog (Owain ap Gruffudd ap Maredudd, c.1130–1197)
- Llywarch Llaety (fl. 1140–1160)
- Llywarch y Nam (enw arall ar Llywarch Llaety, efallai)
- Daniel ap Llosgwrn Mew (fl. 1170–1200)
- Peryf ap Cedifor (neu Peryf ap Cedifor Wyddel, fl. 1170)
- Seisyll Bryffwrch (fl. 1155–1175)
- Gwynfardd Brycheiniog (fl. 1176)
- Gwilym Rhyfel (fl. 1174)
- Gruffudd ap Gwrgenau (fl. diwedd y 12g)
- Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155–1200)
- Llywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch") (fl. 1137–1220)
- Elidir Sais (fl. 1195–1246)
- Einion ap Gwalchmai (fl. 1203–1223)
- Einion Wan (fl. 1230–1245)
- Llywelyn Fardd II
- Philyp Brydydd (fl. 1222)
- Gwgon Brydydd
- Einion ap Gwgan (fl. 1215)
- Gwernen ap Clyddno
- Goronwy Foel (fl. tua chanol y 13g)
- Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237)
- Dafydd Benfras (fl. 1230–1260)
- Y Prydydd Bychan (fl. 1220–1270)
- Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel (c.1240–1300)
- Llygad Gŵr (fl. 1268)
- Iorwerth Fychan
- Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13g)
- Gruffudd ab Yr Ynad Coch (fl. 1280)
- Bleddyn Fardd (fl. 1268–1283)
Beirdd eraill o'r cyfnod (nid yw eu gwaith wedi goroesi):
- Berddig (bl. tua 1050au - 1080au), bardd llys Gruffudd ap Llywelyn, efallai
- Gellan (bu farw 1094), a oedd o bosibl yn fardd teulu Gruffudd ap Cynan o Wynedd
- Gwrgant ap Rhys (bu farw 1158), bardd llys o Wynllŵg
Brudiwr:
- Adda Fras (bl. tua 1240-1320?)
1290–1500
golyguDyma Feirdd yr Uchelwyr. Mae'r rhestr yn ceisio dilyn trefn amser ond nid yw'n gynhwysfawr gan fod gwaith rhai o feirdd llai y cyfnod, yn enwedig beirdd y 15g a dechrau'r ganrif olynol, yn aros yn y llawysgrifau. Anwybyddir hefyd enwau traddodiadol/chwedlonol beirdd y Canu Darogan, ac eithrio rhai enwau beirdd cyfnabyddedig diweddarach.
14eg ganrif (yn bennaf)
golygu- Gruffudd Unbais (fl. c. 1277 – dechrau'r 14g)
- Casnodyn (14g)
- Gruffudd ap Dafydd ap Tudur (fl. 1300)
- Gwilym Ddu o Arfon (fl. 1280 – 1320)
- Trahaearn Brydydd Mawr (dechrau'r 14g)
- Iorwerth Beli (dechrau'r 14g)
- Gronw Gyriog (dechrau'r 14g))
- Iorwerth ab y Cyriog (14g)
- Mab Clochyddyn (hanner cyntaf y 14g)
- Ithel Ddu (ail hanner y 14g)
- Einion Offeiriad (m. 1349)
- Gronw Ddu (canol y 14g)
- Dafydd Ddu o Hiraddug (fl. c. 1330–1370)
- Bleddyn Ddu (fl. 1331–c.1385)
- Bleddyn Llwyd (14g)
- Gruffudd ap Tudur Goch (canol y 14g)
- Gruffudd ap Llywelyn Lwyd (14g)
- Llywelyn Brydydd Hoddnant (dechrau'r 14g)
- Hillyn (14g)
- Hywel Ystorm (14g)
- Llywelyn Ddu ab y Pastard (14g)
- Dafydd ap Gwilym (c. 1320–c. 1370)
- Gruffudd ab Adda ap Dafydd (fl. 1340–1370)
- Llywelyn Goch ap Meurig Hen (fl. c.1350 – c.1390)
- Sefnyn (ail hanner y 14g)
- Rhisierdyn (fl. 1381)
- Conyn Coch (ail hanner y 14g)
- Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed (canol y 14g)
- Llywarch Bentwrch (canol y 14g)
- Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (fl. 1346–1382)
- Hywel ab Einion Lygliw (canol y 14g)
- Llywelyn ap Gwilym Lygliw (14eg/15g?)
- Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw
- Madog Benfras (fl. canol y 14g)
- Gruffudd Gryg (14g)
- Owain Waed Da (Ieuan Waed Da) (14g)
- Prydydd Breuan (14g)
- Rhys ap Dafydd ab Einion (14g)
- Rhys ap Tudur (14g?)
- Rhys Meigen (14g)
- Tudur ap Gwyn Hagr (14g)
- Tudur Ddall (14g)
- Y Mab Cryg (14g)
- Yr Ustus Llwyd (ail hanner y 14g)
- Llywelyn Foelrhon (ail hanner y 14g)
- Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon (ail hanner y 14g)
- Llywelyn Fychan (ail hanner y 14g)
- Iocyn Ddu ab Ithel Grach (ail hanner y 14g)
- Gruffudd Llwyd (diwedd y 14g – dechrau'r 15fed)
- Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan (ail hanner y 14g)
- Gruffudd ap Rhys Gwynionydd (ail hanner y 14g)
- Madog Dwygraig (ail hanner y 14g)
- Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (Sypyn Cyfeiliog) (fl.1340–1390)
- Llywelyn ab y Moel (Llywelyn ap Moel y Pantri) (fl. 1395–1440)
- Y Poesned (fl. 1380au)
- Gruffudd ap Gweflyn (fl. 1382)
- Iolo Goch (fl. cyn 1345 – c. 1400)
- Dafydd y Coed (ail hanner y 14g)
- Ieuan Llwyd ab y Gargam (14g)
- Meurig ab Iorwerth (fl. diwedd y 14g)
- Rhys ap Cynfrig Goch (fl. diwedd y 14g)
- Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw (diwedd y 14g neu ddechrau'r 15fed)
15fed ganrif (yn bennaf)
golygu- Y Proll
- Rhys Goch Eryri (fl. 1365–1440)
- Ieuan Brydydd Hir
- Ieuan ap Llywelyn Fychan
- Ieuan Llwyd Brydydd
- Llawdden
- Lewys Aled
- Iorwerth Fynglwyd
- Rhys Brydydd (fl. tua chanol y 15g)
- Gwilym Tew (fl. 1460–1480)
- Dafydd Epynt
- Dafydd Llwyd o Fathafarn
- Gwerful Mechain
- Guto'r Glyn
- Ieuan ap Gruffudd Leia
- Ieuan Dyfi
- Lewys Glyn Cothi
- Gutun Owain
- Dafydd Nanmor
- Ieuan ap Rhydderch (c.1430–1470)
- Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd (fl. 1440–1470)
- Llywelyn Goch y Dant (bl. 1470)
- Ieuan Du'r Bilwg (bl. ail hanner y 15g)
- Tudur Penllyn
- Ieuan ap Tudur Penllyn
- Dafydd Gorlech
- Hywel Cilan
- Siôn Cent
- Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan
- Dafydd ap Hywel
- Huw ap Dafydd
- Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision
- Llywelyn ap Hywel
- Gruffudd ap Dafydd Fychan
- Huw Cae Llwyd
- Ieuan ap Huw Cae Llwyd
- Ieuan Rudd
- Deio ab Ieuan Du
- Gwilym ab Ieuan Hen
- Maredudd ap Rhys
- Ifan Fychan ab Ifan ab Adda
- Gwerful Fychan
- Huw Pennant (fl. 1465–1514)
- Syr Rhys o Lanbryn–Mair a Charno
- Owain ap Llywelyn ab y Moel (fl. 1470–1500)
- Lang Lewis (bl. 1480–1520)
- Rhisiart ap Rhys (fl. c.1495–c.1510)
16eg ganrif
golyguMae rhan fwyaf o feirdd hanner cyntaf y ganrif yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr. Nid yw'r rhestr yn cynnwys gwaith beirdd a ganai ar y mesurau rhydd newydd o ganol y ganrif ymlaen. Mae'n cynnwys uchelwyr a ganai "ar eu bwrdd eu hunain," heb fod yn feirdd proffesiynol. Nodir hefyd y beirdd proffesiynol olaf a ganai yn y 17g.
- Tudur Aled (c.1465–1525)
- Lewys Môn (bl. 1485–1527)
- Siôn Ceri (bl. tua 1490–1540au)
- Rhisiart Iorwerth (Rhisiart Fynglwyd)
- Edward Sirc (bl. hanner cyntaf yr 16g)
- Lewys Daron (bl. 1520–39)
- Alis Wen (tua 1520- )
- Lewys Morgannwg (bl. 1520–1565)
- Simwnt Fychan (c.1530–1606)
- Gruffudd Hiraethog (1564)
- Wiliam Llŷn (1534/5–1580)
- Wiliam Cynwal (1587/8)
- Huw Llŷn (bl. 1540–1570)
- Morus Dwyfech (bl. 1540–1580)
- Ieuan Tew Hynaf (Ieuan Tew Brydydd Hynaf) (hanner cyntaf yr 16g)
- Ieuan Tew Ieuanc (Ieuan Tew Brydydd Ieuanc) (tua 1540-tua 1608)
- Lewis ab Edward (Lewis Meirchion) (bl. 1541–1567)
- Owain Gwynedd (tua 1545–1601)
- Dafydd Alaw (bl. 1546–1567)
- Huw Cornwy (bl. 1545–1596)
- Lewis Menai (bl. 1557–1581)
- Hywel ap Mathew (m. 1581)
- Dafydd Benwyn (bl. ail hanner yr 16g)
- Siôn Phylip (c.1543–1620)
- Wiliam Midleton (Myddelton) (c.1550-1596)
- Huw Ceiriog (c.1560–1600)
- Huw Pennant (bl. 1565–1619)
- Edward Maelor (bl. 1567–1603)
- Lewys Dwnn (bl. 1568–1616)
- Edmwnd Prys (1543/4–1623)
- Edward Urien (bl. tua 1580–1614).
- Cadwaladr Cesail (bl. 1610–1625)
- Rhisiart Phylip (m. 1641)
- Gruffudd Phylip (m. 1666)
- Phylip Siôn Phylip (bl. hanner cyntaf yr 17g)
- Siôn Dafydd Las (m. 1694)
Clerwr oedd Robin Clidro (fl. tua 1545–1580)
Ffynonellau
golyguSeilir y rhestr ar gyfeiriadau yn y gweithiau hyn:
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Cyfres Beirdd y Tywysogion: Golygiadau safonol o waith y beirdd llys i gyd, mewn saith cyfrol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991-1996).
- Cyfres Beirdd yr Uchelwyr: Cyfres a gyhoeddir gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth (prosiect sy'n cyhoeddi sawl cyfrol newydd bob blwyddyn).
- Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1945)