Allt Fawr
Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Allt Fawr, weithiau Allt-fawr. Saif ar ben draw y grib sy'n ymestyn o'r ardal i'r de o Moel Siabod tua'r de, dros gopaon Yr Arddu, Ysgafell Wen a Moel Druman, gan orffen gydag Allt Fawr, uwchben Blaenau Ffestiniog.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd, Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 698 metr |
Cyfesurynnau | 53.0076°N 3.9673°W |
Cod OS | SH6817447463 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 243 metr |
Rhiant gopa | Moelwyn Mawr |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Saif chwarel lechi Gloddfa Ganol ar lechweddau dwyreiniol y mynydd. Gellir ei ddringo o bentref Tanygrisiau ar hyd Cwmorthin, cyn dringo at adfeilion Chwarel y Rhosydd uwchben ac ymlaen i'r copa. Ceir llwybr arall o fan uchaf Bwlch y Gorddinan (y Crimea) ar y briffordd A470 i'r gogledd o flaenau Ffestiniog.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 698 metr (2290 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.