Amets Arzallus

cyfarwyddwr ffilm a aned yn Hendaye yn 1983

Mae Amets Arzallus[1] Antia (ganed 9 Tachwedd 1983) yn bertsolari, newyddiadurwr ac athro bertsolaritza. Enillodd y Bertsolari Txapelketa Nagusia, prif gystadleuaeth bertso Gwlad y Basg yn 2013, a daeth yn ail i Maialen Lujanbio yn 2022 ac yn 2009[2].

Amets Arzallus
Dyn gyda sbectol yn canu i feicroffon.
Darlun o Amets Arzallus gan Maitane Azurmendi
LlaisAmetsarzallus.ogg Edit this on Wikidata
GanwydAmets Arzallus Antia Edit this on Wikidata
9 Tachwedd 1983 Edit this on Wikidata
Hendaia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Alma mater
Galwedigaethbertsolari, newyddiadurwr, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr ffilm, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMiñan Edit this on Wikidata
TadJexux Arzallus Edit this on Wikidata
PerthnasauJuan Mari Arzallus Egiguren Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Arian Euskadi Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Yn fab i'r bertsolari adnabyddus Jexux Arzallus ac Antia Miren, ac yn frawd i'r bertsolaris Itsaso Arzallus a Maddalen Arzallus, ganed ef yn Donibane Lohizune, ond symudodd y teulu i Hendaia pan oedd o'n fach. Wedi'i ddylanwadu gan ei dad a'i deulu, dechreuodd barddoni yn ifanc, yn ogystal â chwaraeon (mae'n hoffi pêl-droed a pilota).[3] Wedi astudio yn ysgolion Hendaia a Kanbo ac ysgol uwchradd Baiona, astudiodd newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Gwlad y Basg. Mae'n cydweithio â chylchgrawn Argia ac Euskadi Irrati, a hefyd yn gweithio yn yr ysgol bertso yn Hendaia.[4][5]

Yn 2016, pan oedd Donostia yn brifddinas diwylliant Ewropeaidd, Amets oedd prif gymeriad rhaglen ddogfen fel rhan o brosiect "Europa Transit", oedd yn canolbwyntio ar ddinasoedd sydd wedi profi gwrthdaro. Roedd o mewn cysylltiad â cherddorion a beirdd a wnaeth ffoi o Gyprus.[6]

Bertsolaritza golygu

Ymddangosodd gyntaf fel bertsolari yn Beasain, ym Mhencampwriaeth Ryng-Ysgol Gipuzkoa 1992. [5] Yno roedd ei ffrind Sustrai Colina a'i chwaer Itasoa yn gwmni iddo. Cafodd ganlyniadau gwych mewn twrnameintiau rhwng ysgolion.

Ers hynny mae wedi bod ar y lefel uchaf. Roedd yn bencampwr ym mhencampwriaeth Nafarroa yn 2000. Yn 2005, cyrhaeddodd rowndiau terfynol Prif Bencampwriaeth Cantorion Gwlad y Basg; Daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Bertsolari 2009, [4] ar ôl Maialen Lujanbio; ac yn 2013, bu'n bencampwr. Enillodd hefyd gystadleuaeth y Xilaba Bertsulari Xapelketa yn Ngogledd Gwlad y Basg yn 2008, 2010 a 2012.

Llwyddiannau golygu

Twrnameintiau golygu

  • Bertsolari Txapelketa Nagusia (Prif Bencampwriaeth Bertso):
    • Pencampwr (1): 2013
    • Ail (2): 2009 a 2022
    • Rowndiau Terfynol (5): 2005, 2009, 2013, 2017, 2022
  • Nafarroako Bertsolari Txapelketa (Pencampwriaeth Bertso Nafarroa) (4): 2000, 2001, 2002, 2003
  • Xilaba Bertsulari Txapelketa (Cystadleuaeth Bertso Xilaba):
    • Pencampwr (4): 2008, 2010, 2012, 2021
    • Ail (1): 2016
  • Euskal Herriko Eskolarteko Txapelketa (Pencampwriaeth Rhwng Ysgolion Gwlad y Basg) (2):
    • 1997 (Uwchradd)
    • 1996 (Cynradd)

Gwobrau golygu

  • Zarauzko Kopla Txapelketa (Pencampwriaeth Kopla Zarautz) (1): 2010

Llyfrau golygu

Cronicl teithio golygu

  • Illimani: Boliviako izpiak eta hizkiak (2006, Argia liburuak).

Nofel golygu

  • Miñan (2019, Susan ). Nofel a ysgrifennwyd gydag Ibrahima Balde, yn adrodd hanes ei daith o Giniii Ewrop. Enillodd y nofel hon a Wobr Zilarrezko Euskadi yn 2020.[7]
     
    Ibrahima Balde ac Amets Arzallus

Gwaith fel newyddiadurwr golygu

Newyddiadurwr yw Antia Amets Arzallus wrth ei alwedigaeth. Yn 2017, fe gyfwelodd â'i dad Jexux Arzallus. Cyhoeddwyd y cyfweliad hwn yn Ataria Tolosaldeko[8] ac fe'i cynhaliwyd ym man geni ei dad, fferm Goiazko Arre. Bu'n rhaid i'w dad ffoi o Sbaen i Ogledd Gwlad y Basg yn y 1970au.

Cyfeiriadau golygu

  1. Abizena Arzallus idaztea, euskal herritar horren aukera pertsonala da. Izan ere, Euskaltzaindiak, euskara baturako, Artzallus onartu du deitura horren grafiatzat. Ikus Euskal Onomastikaren Datutegia.
  2. "Bertsolari Txapelketa Nagusia 2013" (yn eu), www.bertsozale.eus, https://www.bertsozale.eus/eu/bertsolari-txapelketa-nagusia-2013
  3. "Amets ARZALLUS — Euskal kultur erakundea" (yn eu), www.eke.eus, https://www.eke.eus/eu/kultura/bertsularitza/ipar-euskal-herriko-bertsularitza/bertsulariak/antologia/amets_arzallus
  4. 4.0 4.1 Elkartea, Xenpelar Dokumentazio Zentroa-Bertsozale, "Amets Arzallus - Biografiak - BDB. Bertsolaritzaren datu-basea" (yn eu), bdb.bertsozale.eus, https://bdb.bertsozale.eus/web/haitzondo/view/364-amets-arzallus
  5. 5.0 5.1 "Arzallus Antia, Amets - Auñamendi Eusko Entziklopedia" (yn eu), aunamendi.eusko-ikaskuntza.eus, http://aunamendi.eusko-ikaskuntza.eus/eu/arzallus-antia-amets/ar-21352/
  6. "Amets Arzallus protagoniza el documental del viaje de Europa Transit a Chipre" (Noticias de Gipuzkoa).
  7. SL, TAI GABE DIGITALA (2020-11-18), "Amets Arzallus, Ibrahima Balde eta Eshkol Nevok jasoko dituzte Zilarrezko Euskadi Sariak" (yn eu), naiz:, https://www.naiz.eus/eu/info/noticia/20201118/amets-arzallus-eta-ibrahima-balderen-minan-ek-eta-eshkol-nevoren-tres-pisos-ek-jasoko-dituzte-zilarrezko-euskadi-sariak
  8. "«Dena da hizkuntza, dena da politika, dena da bertsoa, dena da konpromisoa...» - Bidania-goiatz" (yn eu), Tolosaldeko ataria, https://ataria.eus/bidania-goiatz/1484312413854-dena-da-hizkuntza-dena-da-politika-dena-da-bertsoa-dena-da-konpromisoa

Dolenni allanol golygu