Canu byrfyfyr ar fydr ac odl yn Basgeg yw Bertsolaritza. Mae'n un o ganghennau llên lafar Fasgeg. Mae'n rhaid i'r perfformiwr, sef y bertsolari, creu a pherfformio bertso (penillion) yn gyhoeddus yn sydyn.[1] Gellir canu bertso sy'n ymateb i destun a roddwyd, heb destun penodol, neu fel ymddiddan rhwng dau bertsolari.

Bertsolaritza
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathmusic of France Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y bertsolaris Jon Azpilaga, Koxme Lizaso, Jon Lopategi, Joxe Lizaso, Uztapide, Manuel Lasarte, Jose Joakin Mitxelena, Mattin a Xalbador, ar ôl sesiwn yn y 1970au .

Rhaid i'r bertsolaris ddilyn rheolau caeth o ran mesur ac odlau, ac mae ganddi hi neu fo gyfnod byr o amser i wrando ar y testun a dechrau meddwl a chanu'r bertso (ac eithrio bertso papur). [1]

Mae traddodiadau tebyg o ymddiddan cyhoeddus wedi ymddangos mewn llawer o ddiwylliannau ledled y byd. Heddiw, ymhlith eraill, ceir trovo yn ardal Alpujarra yn Andalucía, y payada yn niwylliant Gaucho De America, a repentismo yng Nghiwba. Mae hefyd yn rhan o'r traddodiad Asiaidd, o ddiwylliannau Groeg a Rhufain yr henfyd, ac o hanes Islamaidd Môr y Canoldir. [2]

Mesurau gwahanol y bertso

Hanes golygu

18g a'r 19g golygu

 
Llinell amser bertsolaritza

Er bod olion cynharach hefyd, datblygodd bertsolaritza yng Ngwlad y Basg o'r 19g ymlaen. Ni ledodd ar draws yr holl wlad i'r un raddau, fodd bynnag. Perfformiodd rhai o'r bertsolari mwyaf poblogaidd mewn rhannau o Gipuzkoa. Rhyfeloedd a helbulon niferus yr 19g oedd y thema yn aml. Yn hynny o beth, ymddangosodd pamffledi bertso niferus yn erbyn Ffrainc, o blaid y Carlistiaid a'r Rhyddfrydwyr, ac ynglŷn â Rhyfel Annibyniaeth Ciwba, gyda rhai ar lafar hefyd. Roedd y bertso a ledaenwyd trwy'r pamffledi hyn yn boblogaidd iawn, ac mewn rhai achosion nhw oedd un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd i drafod digwyddiadau a newyddion y dydd.

Xenpelar o Errenteria yw'r enwocaf o bertsolari hynaf y ganrif. Y mae llawer o'i benillion yn cael eu canu o hyd, megis Betroiarenak, Pasaiko zezenarenak (tarw Pasaia) neu Ia guriak egin du. Er nad oeddent yn sefyll allan fel perfformwyr byrfyfyr, mae penillion Jose Mari Iparragirre (megis Ume eder bat - plentyn hardd, a Gerniako arbola - coeden Gernika) a Bilintxen (megis Behin batian Loiolan a Loriak udan intza bezela) hefyd yn nodedig. Gadawodd Piarres Topet (enw barddol: <i id="mwZQ">Etxahun</i>) o Barkoxe yn Zuberoa gyfres o benillion adnabyddus (Ürx’aphal bat badügü, Maria Solt eta Kastero ... ) a Joanes Otsalde o Bidarrai yn Nafarroa Beherea (Lurreko ene bizia, Iruñeko ferietan…)

Ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g, roedd deallusion Basgaidd yn edrych i lawr ar bertsolaritza byrfyfyr. Newidiodd Manuel Lekuona (1894-1987) y ffordd draddodiadol hon o feddwl pan siaradodd am farddoniaeth boblogaidd ym 5ed Cyngres yr Eusko Ikaskuntza yn Bergara ym 1930. Rhoddodd enghreifftiau, rhoddodd drefn ar ddulliau bertsolaritza, a dosbarthodd y mathau gwahanol o ganu. Trwy hynny, gosododd y sylfeini ar gyfer astudiaeth wyddonol o bertsolaritza.

Wrth i'r 19g fynd rhagddi, ymddangosodd llawer o bertsolari yn Gipuzkoa, yn enwedig yn ardaloedd Asteasu a Zizurkil ar y naill law a Donostia ac Orio ar y llall: y rhai enwocaf oedd Udarregi (sef Juan Jose Alkain), Pello Errota (sef Pedro Jose Elizegi) a Pello Mari Otaño. Roedd Udarregi, fel llawer, yn anllythrennog ar y pryd: ond yn ddeallus iawn. Dyfeisiodd system arbennig ar gyfer cofio bertso. Mae Pello Errota yn enwog oherwydd ei feddwl cyflym a'i ddychan miniog; felly, gofynnid yn fynych iddo ysgrifennu bertso. Roedd Pello Mari Otaño yn cael ei adnabod wrth y llysenw Kattarro (annwyd) oherwydd ei lais gwan. Fodd bynnag, gan ei fod yn fwy llythrennog nag eraill, rhoddodd lawer o'i waith ar bapur - megis Lagundurikan danoi, Mutil koxkor bat, Zazpiak bat, Ameriketako panpetan ac ati. [3]

Dyma enwau rhai o bertsolari'r cyfnod:

  • Pernando Amezketarra 1764-1823
  • Etxaun Barkoxe 1786-1862
  • Iparragirre 1820-1881
  • Bilintx 1831-1876
  • Xenpelar 1835-1869
  • Otaño 1857-1910

Dechrau'r 20g golygu

 
Dargaitz, Harriet, Iriarte, Txirrita, Saiburu, Etxeberria, Zepai, Txapel ac Uztapide (1936)

Gostyngodd bri bertsolaris ychydig ar ddechrau'r 20g. Fodd bynnag, nid oedd prinder bertsos yn ystod gwyliau a dathliadau pwysicaf trefi a chymdogaethau, a pharhaodd pamffledi gyda hanesion doniol i ymledu. Roedd y bertsolaris hefyd yn ymdrin â'r rhan fwyaf o faterion cymdeithasol: bywydau morwyr a ffermwyr, brwydrau a streiciau'r gweithwyr, digwyddiadau enwog y cyfnod (Y Rhyfel Byd Cyntaf neu Rhyfel y Rif yng Ngogledd Affrica tua 1920), ac ati.

Cyn y rhyfel, perfformiodd bertsolaris da yn Gipuzkoa a'r cyffiniau; Usurbil, Hernani, Errenteria, yn enwedig yn Oiartzun: Gaztelu (sefJuan Bautista Urkia) o Usurbil, Saiburu (sef Juan Jose Lujanbio) o Hernani, Teilleri txiki (sef Jose Mari Berra) o Errenteria, Kaskazuri (sef Jose Joakin Urbieta) o Oiartzun, Fermin Imaz o Donostia; Zapirain a'r brodyr Juan a Pello Zabaleta o Errenteria; Lexo (sef Juan Jose Sarasola) o Lezoko ymhlith eraill. Roedd yna hefyd bertsolaris yn Azkoitia ac Azpeitia: Atano (sef Juan Mari Juaristi), Etxeberritxo (sef Juan Mari Zubizarreta), Uztarri, Frantzisko Iturzaeta . . .

Ond y bertsolari a ganai ym mron pob cwr o Wlad y Basg y pryd hwnnw oedd Jose Manuel Lujanbio <i id="mwvg">Txirrita</i> (1860 - 1936). Cafodd y dyn hwn, a aned yn Hernani ac a symudodd i fferm Txirrita yn Errenteria yn dair ar ddeg oed, lwyddiant aruthrol. Roedd yn dda am bopeth: yn chwim ei feddwl ac yn llythrennog, mewn pynciau chwareus a difrifol, ar ei ben ei hun neu gyda ffrindiau. Mae wedi dod yn ystrydeb i alw bertsolaritza yr amser yn "bertsolaritza seidr". Weithiau byddai hefyd yn cymryd rhan mewn twrnameintiau, ond nid dyma oedd y mwyaf cyffredin, gan nad oedd yn teimlo'n gyfforddus o gwbl yn yr awyrgylch honno a mynegwyd hyn mewn llawer o'i benillion. <sup id="mwww">[3]</sup> Mae rhai o'i benillion enwog yn cynnwys Neskazar bat tentatzen, Albaiteruen salan, Proportziyo bat, Il da Canovas, Gure munduko bizimodua a Norteko trenari jarriak.

Tu allan i Gipuzkoa, ni chryfhawyd bertsolaritza rhyw lawer yn Bizkaia. Fodd bynnag, rhaid inni beidio ag anghofio pwysigrwydd y teulu Enbeita yn Muxika. Ar ddechrau'r 20fed ganrif, Urretxindorra (sef Kepa Enbeita, 1878 - 1942) oedd yr enwocaf ynghyd â'i frawd Imanol. Teithiodd yn aml y tu allan i'w dalaith hefyd, gan gystadlu ag eraill neu hyd yn oed amddiffyn syniadau cenedlaetholwyr yn ystod ymgyrchoedd etholiadol a ralïau. Er ei fod yn defnyddio Basgeg "pur" y puryddion i raddau, gallai gyrraedd y gynulleidfa yn hawdd. Ar ôl y rhyfel, dilynodd ei fab Balendin a nifer o wyrion draddodiad bertsolari'r teulu.

Arloesi yn ystod y Weriniaeth golygu

 
Cylchgrawn Bertsolariya

Cyfnod o dawelwch: (1936-1945) golygu

Bertsolaritza'r gwrthryfel: (1960-1979) golygu

Bertsolaritza a bertsolaris cyfoes golygu

Ysgolion Bertso golygu

 
Nifer yr ysgolion bertso ym mhob talaith yng Ngwlad y Basg.
 
Rhigymau bertso

Menywod a bertsolaritza golygu

 
Maialen Lujanbio, enillydd Pencampwriaeth Bertsolari 2017
 
Cymhariaeth rhwng dynion a merched yn y blynyddoedd diwethaf yn y Bencampwriaeth Bertso.

Mathau o sesiynau golygu

Sesiynau cyhoeddus golygu

Gwobrau a thwrnameintiau golygu

Bertsolaris enwog golygu

 
Darlun o bertsolari.

Clasuron golygu

  • Basarri
  • Bilintx
  • Balendin Enbeita
  • Kepa Enbeita
  • Pello Errota
  • Etxahun
  • Joan Etxamendi
  • Lazkao Txiki
  • Lexo
  • Lexoti
  • Otaño
  • Pernando Amezketarra
  • Mattin Treku
  • Txirrita
  • Uztapide
  • Xalbador
  • Xenpelar
  • Zepai

Cyfoes golygu

  • Miren Amuriza
  • Xabier Amuriza
  • Amets Arzallus
  • Sustrai Colina
  • Andoni Egaña
  • Igor Elortza
  • Aitor Sarriegi
  • Nerea Elustondo
  • Xabier Euzkitze
  • Oihana Iguaran
  • Jesus Mari Irazu
  • Unai Iturriaga
  • Sebastian Lizaso
  • Jon Lopategi
  • Maialen Lujanbio
  • Jon Maia
  • Mañukorta
  • Alaia Martin
  • Jon Martin
  • Xabier Paya
  • Anjel Mari Peñagarikano
  • Jon Sarasua
  • Xabier Silveira

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu