Mae amocsicilin, sydd hefyd yn cael ei sillafu’n amocsycilin, yn wrthfiotic sy’n ddefnyddiol at drin nifer o heintiau bacteriol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₆H₁₉N₃O₅S. Mae amocsicilin yn gynhwysyn actif yn Amoxil a Moxatag. Fe'i defnyddir fel y driniaeth gyntaf ar gyfer Llid y glust ganol. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer trin ffaryngwst streptococol, niwmonia, Llid yr isgroen, a heintiau'r bibell droethol ymysg eraill. Fe'i cymerir drwy'r geg, neu'n llai cyffredin drwy bigiad.[2][3]

Amocsicilin
Math o gyfrwngmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
MathPenisilin, asid carbocsylig Edit this on Wikidata
Màs365.104542 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₆h₁₉n₃o₅s edit this on wikidata
Enw WHOAmoxicillin edit this on wikidata
Clefydau i'w trinDolur ar y dwodenwm, llid y glust ganol, clamydia, actinomycosis, clefyd lyme, listeriosis, haint bacteria sy'n adweithio'n negyddol i brofion gram, llid y sinysau, haint yn yr uwch-pibellau anadlu, heintiad y llwybr wrinol, clefyd achludol rhedwelïol, hadlif edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Yn cynnwysnitrogen, ocsigen, sylffwr, carbon, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae sgil-effeithiau cyffredin yn cynnwys cyfog a brech. Gall hefyd gynyddu'r risg o heintiau burum ac, pan ddefnyddir ynghyd ag asid clafwlanig, dolur rhydd.[4] Ni ddylid ei ddefnyddio gan y rheiny sy'n alergaidd i benicillin. Tra'n ddefnyddiol i bobl a phroblemau'r arennau, dylid lleihau'r ddogn. Nid yw'n beryglus ei ddefnyddio tra'n feichiog neu'n bwydo ar y fron.

Darganfyddwyd Amoxicillin yn 1958 a daeth i gael ei ddefnyddio'n feddygol yn 1972.[5][6] Mae ar Restr Meddigyniaethau Hanfodol Cyfundrefn Iechyd y Byd, y moddion mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn  system iechyd.[7] Mae'n un o'r gwrthfiotigau mwyaf cyffredin i'w argymell i blant.[8] Mae Amoxicillin ar gael fel cyffur generig. Mae ei gyfanwerth yn y gwledydd datblygol rhwng 0.02 and 0.05 USD y dabled.[9] Yn Yr Unol Daleithiau mae triniaeth am ddeg diwrnod yn costio tua 16 USD.

Defnydd meddygol

golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • dolur ar y dwodenwm
  • Llid y glust ganol
  • clamydia
  • actinomycosis
  • clefyd Lyme
  • listeriosis
  • haint bacteria sy'n adweithio'n negyddol i brofion Gram
  • llid y sinysau
  • haint yn yr uwch-pibellau anadlu
  • systitis acíwt
  • clefyd achludol rhedwelïol
  • hadlif
  • Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Amocsicilin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • amoxycillin anhydrous
  • α-amino-p-hydroxybenzylpenicillin
  • Wymox
  • Vetremox
  • Utimox
  • Trimox
  • Sumox
  • Robamox
  • Polymox
  • p-Hydroxyampicillin
  • Cyfeiriadau

    golygu
    1. Pubchem. "Amocsicilin". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. "Amoxicillin". The American Society of Health-System Pharmacists. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Medi 2015. Cyrchwyd 1 Awst 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
    3. "Amoxicillin Sodium for Injection". EMC. 10 Chwefror 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Hydref 2016. Cyrchwyd 26 Hydref 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
    4. Gillies, M; Ranakusuma, A; Hoffmann, T; Thorning, S; McGuire, T; Glasziou, P; Del Mar, C (17 Tachwedd 2014). "Common harms from amoxicillin: a systematic review and meta-analysis of randomized placebo-controlled trials for any indication.". CMAJ : Canadian Medical Association Journal 187: E21-31. doi:10.1503/cmaj.140848. PMC 4284189. PMID 25404399. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4284189.
    5. Fischer, Janos; Ganellin, C. Robin (2006). Analogue-based Drug Discovery (yn Saesneg). John Wiley & Sons. t. 490. ISBN 9783527607495.
    6. Roy, Jiben (2012). An introduction to pharmaceutical sciences production, chemistry, techniques and technology. Cambridge: Woodhead Pub. t. 239. ISBN 9781908818041.
    7. "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2016. Text "Ebrill 2015" ignored (help); Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
    8. Kelly, Deirdre (2008). Diseases of the liver and biliary system in children (arg. 3). Chichester, UK: Wiley-Blackwell. t. 217. ISBN 9781444300543.
    9. "Amoxicillin". International Drug Price Indicator Guide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-25. Cyrchwyd 1 Awst 2015.


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!