Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Ysgol uwchradd gyfun gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal yr Eglwys Newydd, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Saesneg: Whitchurch High School). Caiff ei redeg gan awdurdod addysg lleol Cardydd, ond mae wedi gwneud cais i'r Cynulliad i dderbyn statws ysgol sylfaenol. Y prifathro presennol ydy Mr Huw Jones-Williams.[2]

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Whitchurch High School
Arwyddair Album Mon Asterium
Ystyr yr arwyddair Learning For Life
Dysgu Gydol Oes
Sefydlwyd 1968, 1937
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Mark Powell
Lleoliad Heol Penlline, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, Cymru, CF14 2XJ
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Staff 240
Disgyblion 2416 (2021)
Rhyw Cyd-addysgol[1]
Oedrannau 11–18
Lliwiau Du a glas
Gwefan http://www.whitchurchhs.cymru

Strwythur yr ysgol

golygu

Mae'r ysgol wedi ei rannu ar ddau ddau safle, y safle isaf ar Glan-y-Nant Terrace sy'n cael ei fynychu gan plant 11-13 oed (blynyddoedd 7 i 9), a phlant 14–18 oed (blynyddoedd 10 i 11 a'r chweched ddosbarth) yn mynychu'r ysgol uwch ar Penlline Road.

Mae'n gwasanaethu ardal eang sy'n cynnwys Gabalfa, Llwyn Fedw, Coryton, Ystum Taf, Rhiwbeina a'r Eglwys Newydd. Roedd 2283 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2009, gyda 486 yn y chweched ddosbarth. Daeth 94% o gartrefi lle roedd Saesneg yn iaith gyntaf, ni ddaeth dim o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn iaith gyntaf ac ni allai unrhyw o'r disgyblion siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf.[1]

Datganiad cenhadaeth yr ysgol ydy "To be a caring, well ordered and successful community in which all individuals who come to learn and work here are able to develop their maximum potential”.[1]

Bu dwy safle'r ysgol yn ysgolion arwahan ar un adeg, sef Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd ar Penlline Road ac Ysgol Uwchradd Sirol yr Eglwys Newydd ar Glan-y-Nant Terrace. Unwyd y ddwy ysgol ym 1970, pan ailstrwythrwyd addysg yn yr ardal gan yr awdurdod addysg lleol ar y pryd, sef AALl De Morgannwg.

Cyn-ddisgyblion o nôd

golygu

Cyfleusterau

golygu
  • Neuadd chwaraeon ar safle isaf yr ysgolschool site, a agorwyd gan y Tywysog Andrew
  • Neuadd chwaraeon a chyfleusterau cadw'n heini, ystafelloedd newid a dosbarthiadau ar safle uchaf yr ysgol
  • 10 maes pêl-dred pump bob ochr gyda goleuadau dilyw, yn ogystal â phum maes pêl-dred pump bob ochr a pahrcio ar safle isaf yr ysgol sy'n cael ei redeg gan gwmni Powerleague, sydd hefyd ar gael ar gyfer defnydd y gymuned ar ôl oriau ysgol
  • Maes astroturf gyda goleuadau dilyw ar safle isaf yr ysgol sy'n cael ei ddenyddio'n bennaf ar gyfer hoci a phêl-droed
  • Meysydd chwarae eang ar y ddwy safle sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gemau rygbi rhwng ysgolion
  • Campfa draddodiadol gyda offer dringo, rhaffau, offer gymnasteg a matiau glanio ar y ddwy safle.
  • Ysgubordy Iseldireg, cyn-gampfa a fu ar chwal sydd wedi cael i ailddatblygu'n neuadd ar gyfer cynnal gwasanaethau, arddangosfeydd celf a chyngerddau blynyddol Coffa Matthew Pasley a Richard Fice
  • Bloc gerddoriaeth pwrpasol ar y safle isaf
  • Stiwdio ddrama ar y safle isaf

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu