Pip Broughton

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn 1957

Cyfarwyddwr ffilm, teledu a theatr yw Philippa Jane Broughton, a adnabyddir fel Pip Broughton (ganed Ebrill 1957, Lerpwl).

Gyrfa golygu

Bu Broughton yn gweithio fel cyfarwyddwr theatr am 15 mlynedd, gan gynnwys swyddi fel Cyfarwyddwr Creadigol Croydon Warehouse, Paines Plough a Nottingham Playhouse. Mae wedi gweithio ym maes ffilm a theledu ers 1995, gan gyfarwyddo sawl ffilm ar gyfer Channel 4 a chyfresi drama ar ran ITV a'r BBC, megis Blood on the Dole, The Bill, Close and True, a 55 Degrees North.[1][2]

Ers 2013, mae Broughton wedi bod yn cynhyrchu, a gweithio gyda chyfarwyddwyr newydd fel rhan o gyfres Playhouse Presents Sky Arts; gan gyd-weithio gyda Idris Elba, Matt Smith a Polly Stenham; a'r llenorion Frank McGuinness, Eve Ensler, Mark Ravenhill, Jeremy Brock, Paul O’Grady, Rebecca Lenkiewicz a Sandi Toksvig.[2]

Yn 2014, cyfarwyddodd Broughton addasiad o Under Milk Wood ar gyfer y BBC, ffilm a serennodd Michael Sheen, Tom Jones, a Jonathan Pryce.[3].

Vox Pictures golygu

Ar y cyd â'r cynhyrchydd Adrian Bate, mae Broughton yn rhedeg cwmni Vox Pictures. Mae eu cynhyrchiadau'n cynnwys Just Jim, a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Craig Roberts; Aberfan: The Green Hollow, ffilm o gerdd gan Owen Sheers a gyfarwyddwyd gan Broughton, a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA yn y categori Drama Unigol Orau ar gyfer Teledu; Un Bore Mercher (a'r fersiwn Saesneg Keeping Faith), a gyfarwyddwyd gan Broughton, ysgrifennwyd gan Matthew Hall a serennodd Eve Myles, ar gyfer S4C a BBC Cymru.[4][5][6]

Bywyd personol golygu

Mae Broughton yn byw yn Nhrefynwy gyda'i gŵr Aneirin Hughes[7] a dau o blant.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Vox Pictures⎮Home". Vox Pictures⎮Home. Cyrchwyd 2017-08-22.
  2. 2.0 2.1 "Pip Broughton". IMDb. Cyrchwyd 2017-08-22.
  3. Under Milk Wood (TV Movie 2014), http://www.imdb.com/title/tt3769244/?ref_=nm_flmg_dr_3, adalwyd 2017-08-22
  4. [1]
  5. "BBC - Aberfan: The Green Hollow - Media Centre". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-08-22.
  6. "Craig Roberts launches production company; readies second feature". Screen (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-08-22.
  7. When a murder touches your own family; TV DRAMA WILL MAKE ANEIRIN A STAR, The Mirror; 1/2000; Adalwyd 2015-12-23
  8. Cylchlythyr Off Centre Theatre, Mai 2013 Archifwyd 2020-11-18 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd 2015-12-23

Dolenni allanol golygu

Pip Broughton


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.