Gwleidydd o'r Alban yw Angus Robertson (ganwyd 28 Medi 1969) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Moray; mae'r etholaeth yn Moray, yr Alban. Mae Angus Robertson yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Angus Robertson AS
Angus Robertson


Cyfnod yn y swydd
7 Mehefin 2001 – 3 Mai 2017
Arweinydd Arweinydd Seneddol yr SNP
Rhagflaenydd Margaret Ewing
Olynydd Douglas Ross

Geni (1969-09-28) 28 Medi 1969 (55 oed)
Wimbledon, Llundain
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Moray
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Wedi graddio ym Mhrifysgol Aberdeen, gweithioedd fel gohebydd.

Fe'i etholwyd gyntaf i Dŷ'r Cyffredin yn 2001. Ef oedd Cydlynydd ymgyrch etholiadol Senedd yr Alban yr SNP yn 2007 ac yn 2011.[1] Ef hefyd oedd Cydlynydd eu hymgyrch etholiadol hynod lwyddiannus yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015.[2] Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr ymgyrch Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 ar ran yr SNP.[3]

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[4][5] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Angus Robertson 24384 o bleidleisiau, sef 49.5% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +9.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9065 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Profile: Angus Robertson - The Scotsman". Thescotsman.scotsman.com. Cyrchwyd 2015-06-01.
  2. "SNP appoints Angus Robertson MP to lead election campaign - BBC News". Bbc.co.uk. 2014-12-13. Cyrchwyd 2015-06-01.
  3. "'Victory man' takes reins of campaign for independence SNP fires the starting gun for vote on independence". News.scotsman.com. Cyrchwyd 2015-06-01.
  4. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  5. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban